Aralleiriad: Paraphrase: 99 - Talu Dyled

Talu Dyled

Cywyddau, twf gwych a doeth,
coflaid hardd, tyfiad da bardd cerddi coeth—
ni fu un organ (pwynt o apêl)
4mor amlwg â hwy.
Tŷ cerrig serch (o'r un fam a'r un tad)
sy'n fy mradychu yw fy mron.
Cenhedlwyd holl gwmpas y lleidr llwyd
8o'r un peth.

Rhoddais iddi (rhyw swyddau)
foliant rhugl o'm heiddo,
llais telyn a chloc,
12gormod o rodd; gŵr meddw a'i rhoes.
Heais fel ynfytyn serchog
ei chlod yng Ngwynedd drwyddi draw.
Yn ffrwythlon y mae had trwchus yn hedfan,
16dyna head teg.
Bu pawb ar fy ôl yn bybyr,
a'u 'Pwy?' oedd ym mhob ffordd.
Paternoster swnllyd [sy'n eiddo i]
20bawb o'r rheini a ganodd [y] tant llaw hwyaf
ym mhob gwledd (frenin arbennig)
yw ei cherdd [sydd] yn wych er ei mwyn.
Tyfodd tafod ganmoliaeth
24(teg ei gwên yw), amen mawl,
oherwydd ar ddiwedd pob gweddi,
(cof cywir) fe'i henwir hi.
Chwaer ydyw, lliw pelydrau tes,
28i ferch Gwgon [y] farchoges.

Yr un llais sydd gennyf, yn lle y safai hi,
â'r gog, morwyn gyflog Mai.
Honno ni fedr [gynhyrchu] oherwydd ei natur
32ond un llais, â'i chlogyn llwyd.
Ni rydd y gog daw ar ei chleber,
crygu y mae rhwng craig a môr.
Ni chân gywydd, llw hapus,
36nac acen ond 'Gwcw!'
Gwyddys ym Môn mai gwas mynaich
fûm i yn ormod fy maich,
yr hwn ni wna (da yw dau disian)
40ond un gwaith (mynwes dew).

[Â] meddwl aflonydd, dadl ddidwyll,
dilynais fel [un yn] dal anadl,
[a] defnyddio i'w hurddo hi
44ddefnyddiau [crai] dwfn barddoniaeth iddi.
Ffarwél bellach heb allu [canfod]
o'i herwydd na chuddle na lloches.
Llwyth sydd ganddi, os yw'n cynilo,
48ac os dodir [hwy] ar dir da:
saith gywydd a saith ugain i Forfudd fain
syth a hardd ei chorff.
Rwyf yn adyn oherwydd ei chariad,
52bydded [iddi] fynd â hwy, rwyf yn ddieuog.
Nid yw cariad gwerthfawr yn gofyn am dâl;
nid oes arni ddim imi bellach.