| Talu Dyled | |
| Cywyddau, twf gwych a doeth, | |
| coflaid hardd, tyfiad da bardd cerddi coeth— | |
| ni fu un organ (pwynt o apêl) | |
| 4 | mor amlwg â hwy. |
| Tŷ cerrig serch (o'r un fam a'r un tad) | |
| sy'n fy mradychu yw fy mron. | |
| Cenhedlwyd holl gwmpas y lleidr llwyd | |
| 8 | o'r un peth. |
| Rhoddais iddi (rhyw swyddau) | |
| foliant rhugl o'm heiddo, | |
| llais telyn a chloc, | |
| 12 | gormod o rodd; gŵr meddw a'i rhoes. |
| Heais fel ynfytyn serchog | |
| ei chlod yng Ngwynedd drwyddi draw. | |
| Yn ffrwythlon y mae had trwchus yn hedfan, | |
| 16 | dyna head teg. |
| Bu pawb ar fy ôl yn bybyr, | |
| a'u 'Pwy?' oedd ym mhob ffordd. | |
| Paternoster swnllyd [sy'n eiddo i] | |
| 20 | bawb o'r rheini a ganodd [y] tant llaw hwyaf |
| ym mhob gwledd (frenin arbennig) | |
| yw ei cherdd [sydd] yn wych er ei mwyn. | |
| Tyfodd tafod ganmoliaeth | |
| 24 | (teg ei gwên yw), amen mawl, |
| oherwydd ar ddiwedd pob gweddi, | |
| (cof cywir) fe'i henwir hi. | |
| Chwaer ydyw, lliw pelydrau tes, | |
| 28 | i ferch Gwgon [y] farchoges. |
| Yr un llais sydd gennyf, yn lle y safai hi, | |
| â'r gog, morwyn gyflog Mai. | |
| Honno ni fedr [gynhyrchu] oherwydd ei natur | |
| 32 | ond un llais, â'i chlogyn llwyd. |
| Ni rydd y gog daw ar ei chleber, | |
| crygu y mae rhwng craig a môr. | |
| Ni chân gywydd, llw hapus, | |
| 36 | nac acen ond 'Gwcw!' |
| Gwyddys ym Môn mai gwas mynaich | |
| fûm i yn ormod fy maich, | |
| yr hwn ni wna (da yw dau disian) | |
| 40 | ond un gwaith (mynwes dew). |
| [Â] meddwl aflonydd, dadl ddidwyll, | |
| dilynais fel [un yn] dal anadl, | |
| [a] defnyddio i'w hurddo hi | |
| 44 | ddefnyddiau [crai] dwfn barddoniaeth iddi. |
| Ffarwél bellach heb allu [canfod] | |
| o'i herwydd na chuddle na lloches. | |
| Llwyth sydd ganddi, os yw'n cynilo, | |
| 48 | ac os dodir [hwy] ar dir da: |
| saith gywydd a saith ugain i Forfudd fain | |
| syth a hardd ei chorff. | |
| Rwyf yn adyn oherwydd ei chariad, | |
| 52 | bydded [iddi] fynd â hwy, rwyf yn ddieuog. |
| Nid yw cariad gwerthfawr yn gofyn am dâl; | |
| nid oes arni ddim imi bellach. | |