I'r Grog yng Nghaerfyrddin
Aberth grymus yw nerth (nid mewn rhyfel gorthrechwyr
ond mewn gwyrth gadarn dirion)
crair clodfawr, eglur ei rym, enwog,
4 crog ac iddi bedwar pwynt o Gaer wen.
Lluniaf ddatganiad o fawl gan fy mod yn stiward ar
farddoniaeth
i'r ddelw wych, ddisglair, hyfryd,
lle mae twrw mawr llanw byrlymus ei gwrs,
8 cwmpas disglair Caer â rhesi o fylchau.
Llawn iawn fu o fendith heb ddull rhyfel na thwrw
na therfysg brwydr dra disglair.
............ caer loyw olau ei gwyngalch,
12 lle mae'r môr yn llenwi afon Tywi fyrlymus.
.....................................................
o achos y grog ddisglair,
maen â gorchudd llathraid ......taer ei ymladd,
16 llyfn yw'r bylchau â llawer o ystyllod [i]'r llu o gwmpas
Caer.
Delw fyw lathraid o linach Tywysog llwybr tirion,
...........disglair
lle daw, cyn treio tu draw i'r maes,
20 llanw sy'n treiddio i'r eithaf ac yn cyrraedd Caer.
.................... dysg heddychlon er anrhydedd
i'r ddelw fyw wych, loyw a disglair,
disglair yw datganiad [?cennad] addfwyn,
24 ...............................................................
Caer.
Cyflawn o fendith ydyw, stiward di-fai, ynof
gan ...................................
celfydd yw'r piler gwynfydedig tirion,
28 newydd da ty sanctaidd hyfryd Caer.
...................... Crist yw saer y grog
bur a chadarn ei gwyrth lesol a disglair,
Creawdwr .................................
32 [crair] a ddoeth i dref Caer ysblennydd.
Y grog hon, llyfr Beibl disglair â chlawr addurnedig,
....................................saer
delw wych, datganiad trylwyr tirion,
36 urddas ty annwyl Caer.
................................. can byddin diniwed
lle mae naw berw ton disglair eu swn,
...................................................
40 dwr dros ddolydd sy'n mynd tuag at Gaer.
Daeth llanw gwyllt â .........................
er moliant i'r ddelw ddisglair,
teml ddwys y Saeson, dwr cyflym byrlymus,
44 ......................................... Caer.
Da fu, datganiad trylwyr tirion, cwrs
.......................................
bendith fawr ac eglur, di-fai, enwog,
48 cludo gem a garem i Gaer.
Cyffes gywir a dymunol yw dyfod
i blith Saeson tref Seisnig,
..................................
52 crair eglur a hyfryd ei fri, crog o nef.
I'w ?braint ddisglair ............
................ cludo barddoniaeth wedi'i chysylltu'n
gadarn,
ei thy yw Caer, tref filwrol gadarn,
56 ..................................................
.......................................
.......................................
.......................................
60 .......................................
Croes dioddefaint gogoneddus yr Arglwydd Grist gwynfydedig,
ni fagwyd pennaeth fel Ef,
Amddiffynnydd, Ymherodr pur tangnefedd,
64 dioddefaint crair cadarn gwych Arglwydd tirion y nef.
Daeth Duw Dad â delw ddaionus gywrain ei cherdd i Gaer,
fe'i gwneir yn allwedd gwyrth;
dof innau (cyfraniad o'r moliant pur melysaf)
68 â dwy gerdd eglur i'm crair di-fai.
Gwnaeth hon i'r deillion nad ydynt yn gweld, heb air o
gelwydd,
[fod] fel y gwalch llygadog yn ei lawn blu;
arwydd na bydd, Arglwydd nerthol y ffydd,
72 neb yn ddedwydd heb nerth Mab mawr Mair.
A bod, goleuni clodfawr ei natur, crupl truan a phwl,
meirwon gwywedig, ail air Duw,
yng ngwydd pawb, gair mawl hyfryd,
76 yn gerddwr cryf ar orymdaith mewn ffair.
O'i gwyrth ddoeth a'i lles bydd y rhai byddar yn clywed
yn eglur wych heb rwystr;
a bydd yn gwneud peth marw yn fyw holliach,
80 gobaith moliant mawr.
Crair clodfawr gair pur yr Arglwydd, delw ddisglair
eglur a doeth ei gwyrth gref,
mae pob gradd o bobl, naddiad da gyda bwyall,
84 yn gyfarwydd â thaith er mwyn y Gwr sy'n eu
tyfu.
Ymweliad gwych .............. deisyf y grog
yng Nghaer eglur â lliw ei chalch fel eira,
wedi maddeuant, braint trwy lythyr,
88 salmau barddonol teml dda Solomon.
Molaf, addolaf ar fy ngliniau, .............
........... blinedig fy nhafod,
mae llawer yn moli, arllwysiad clodfawr o win,
92 delw fawr o drigfan ysblennydd Myrddin.
Agoraf, dodaf, datganiad ar ddeulin, fy mryd
mewn barnau goruchaf,
i garu delw fuddiol iawn ei rhinwedd,
96 ......................................
......................................
...................... trigfan myrr a gwin,
dysg sy'n fendith lwyr,
100 ysblennydd yw piler gwych a doeth Caerfyrddin.
...................................... i Gaer
ac arwydd Iesu yw,
cerdd eglur ddisglair ei bwrlwm .............
104 ............. crair byw urddasol.
.........................................................
cyfansoddwyr barddoniaeth a'i clyw,
Arglwydd wyneb gwych y byd a glyw
108 fawl gweddus i'r ddelw fyw hardd.
Mantell euraid urddasol a wnaeth Saeson o bell
.............................................
caer ddiddiffyg lleygwyr o liw barrug,
112 dull Seisnig, ar gyfer y grog fyw ddisglair.
......... diysgog [ei] braint a ddaeth i Gaer,
enwog yn y Beibl a glywir gan y pobloedd,
o farw, Arglwydd arweinydd gwych,
116 mantell euraid, a wnaeth yn fyw.
........................ delw euraid gref o ran iaith a
ddaeth
gydag anafiadau mawr heb graith,
piler urddasol ..........................................
120 i Gaerfyrddin gref, taith fendithiol iawn.
................................. iaith gref i gaer fawr,
nid cerdd ofer yw iaith fawl;
dwyn ...................................
124 taith ddedwydd a dewisol.
................................ ugain mil
sy'n canmol eu bendith helaeth;
sicrhaf na fyddaf yn llygru iaith fawl,
128 moliant hawl ffyniannus y daith sy'n lles teg.
.................................... iaith
wynfydig-Usalem
a seiliwyd yn Bennaeth,
ymyl bedd Crist ................
132 ................... mur cadarn a lliwiedig.
................................ traethiad gwych Myrddin
a ganodd gerdd sy'n cylchredeg ymhob iaith,
lle y mae ........................................
136 ............. delw fyw ddisglair, urddasol, faith.
............................................................
........................................
................................ pellfaith
140 iddynt hwy sy'n dymuno taith.
Duw trugarog, mae'n ein caru, nid yw'n ein ceryddu, ein
tâl
dros lifeiriant creulon o waed a folir yn angerddol;
Derwen urddasol a'n prynodd ni yn ddewr,
144 Cynheiliad y nef sy'n rhoi nawdd i ni.
Daeth i Gaer, lle mae twrw rhuthr grymus y môr yn
fyrlymus,
yn y ffurf y'n prynodd ni,
enwogrwydd melys, darparodd ddysg inni,
148 delw o'r nef, Crëwr nawdd.
Gofala am gyfran o'm salm, na ddarostwng arwyddion ysbrydoliaeth
farddol,
y grog deg fawr a'm prynodd i,
anafiadau gwaedlyd a'th liwiodd,
152 erfyniaf, yn enw'r Arglwydd Dduw, dy nawdd.
Cost dafn o waed yr Arglwydd, trefnodd Crist eglur
i'r grog ddisglair sy'n ein gwared ni rhag digofaint,
bonedd mewn mydr, ymadrodd grymus,
156 dref sy'n ail nef, nawdd annwyl.
Llathraid yw y grog fyw o fewn dinas Caer,
delw annwyl teyrnas,
lle gwyl y Saeson, torf welw gyfoethog,
160 llifeiriant dwr croyw a llanw gloyw glas.
Elw cyflawn ar gyfrif delw euraid trwy urddas gem
a dderbyniodd ty a phlasty;
lle mae dwr yn byrlymu...cwrs dwfn
164 llawr [dyffryn] wyneb mawr llathraid y môr llyfn
glas.
Lle byrlymus ei ddyfroedd yw Caer, lle nad cas mynd iddo
er mwyn delw y ty nefolaidd,
lle .......................... Jiwdas,
168 lle mae llawer o donnau glas hardd yn byrlymu.
Lluniaf daith gadarnaf, bonedd doeth, i weld
y [grog] wych a disglair [sy'n rhoi] goleuni gras,
.................................... llifeiriant uwch cwrs
afon,
172 llwybrau Caer a mantell ddisglair llanw glas.
Mae o gwmpas ty y grog a'i fylchau disglair a'i lethr
hir
................................................
bendith dirion ei grym dinas wedi'i amgylchynu gan faen,
176 mur cain a môr gloyw ..... glas.
Sicrwydd a wnaf i'm Harglwydd cadarn trwy foddion bonedd i'r
grog
ar groyw .............. ei gwas,
mawl gwych, eofn, dwys, cyfoethog,
180 fel rhif graean ar lan las.