Y kowydd a wnaeth dd ap Gwilim i forfydd wedir saith ar saithigain
1 Cywyddav twf cywiwddoeth
2 cof hardd am rhydd cathlfardd coeth
3 Ni bu ag hwynt pwynt ym pel
4 vn organ mor anirgel
5 Maendu serch vnfam vndad
6 yw fy mron a wnai fy mrâd
+1 herwr glan heb alanas
+2 [10v] hyna wyf oi fflwyf ai fflas
7 Holl gwmpas y lledrwas llwyd
8 or vn oll ir enillwyd
9 Rhois iddi bob rhyw swyddav
10 rhygl foliant or meddiant mav
11 Gwrddlef telyn ag orddlais
12 gormodd rodd gwr meddw ai rhoes
13 Heais mal orav hiam {orohian}
14 i chlod yngwynedd wych lan
15 Nydwy i mae yn hedeg
16 hâd tew dyna head teg
17 Pybyr fu pawb ar fy ol
18 ai pwyawdd ym hob heol
19 Pater noster anistaw
20 pawb ar gant llofrdant llaw
21 Ym hob cyfedd rhyfedd rhi
22 yw i cherdd yn wych yrddi
25 Cans ar ddiwedd pob gweddi
26 cof cowir ir henwir hi
+3 Pelldvawd ywr ddvn nid pwyllwael
+4 pawb a wyr pob ddvn hwyr haf
27 Chwaer ydiw towyn liw tes
28 i ferch Wgan farchoges
29 Vnllais wyf yn lle safai
30 ar gog morwyn gyflog mai
31 Honno ni feydyr ai hanwyd
32 eythr vnllais ai thorvn llwyd
33 Ni thaw y gog ai chogor
34 crygv mae rhwng craig a môr
35 Ni chan gywydd lonydd lw
36 nag acken onid gwckw
37 Gwys y Môn mae gwas mynaich
38 fym i yn ormodd fy maich
39 Yr hwn ni wna dda ddevtrew
40 lafyr ond vn lowfron dew
41 Di lonydd bwyll ddidwyll ddadl
42 dylynais fal dal anadl
43 Defnyddiaw yw hyrddaw hi
44 defnyddiav cerdd dwfn iddi
45 Yn iach bellach heb allel
46 na chvdd am dani na chel
47 Talm sydd iddi os tolia
48 ag o dodir ar dir da
49 Saith gowydd i forfydd fain
50 syth hoywgorff a saith igain
51 Adyn oi chariad ydwyf
52 aed ag wynt di evawg wyf
53 Ni ddeil garriad taliadwy
54 ni ddyly hi imi mwy
dd ap Gwilim ai cant