llyma gywydd ir a wnaeth dd ap gwilim
wedi/r sat saith gywydd ar saith igen
1 kywydd twf kywiwddoeth
2 kof hardd am rhydd kathlfardd koeth
3 ni bü ag hwynt pwynt ym pêl
4 vn organ mor anirgel
5 maendy serch vnfam vndad
6 yw fy mron a wnai fy mrâd
+1 herwr glan heb alanas
+2 hynaf wyf oi fflwy ai fflas
7 holl gwmpas y lledrwas llwyd
8 or vn oll ir enillwyd
9 rhoes iddi bob rhyw swyddaü
10 rhügl foliant or meddiant maü
11 gwrddle telyn ag orddloes
12 gormodd rhodd gwr meddw ai rhoes
13 heais mal oraü hiain
14 i chlod yngwynedd wych lân
15 hydwy i mae yn hedeg
16 had tew dyna head têg
17 pybyr fü pawb ar fy ôl
18 ai pwyawdd ymhob heol
19 [415] Pader noster anistaw
20 pawb ar gaant llyfrdant rhwg llaw
21 ymhob kyfedd rhyfedd rhi
22 yw i cherdd yn wych erddi
25 kans ar ddiwedd pob gweddi
26 kof kowir ir henwir hi
+3 pellwawd yw r ddyn nid pwyllwael
+4 pawb a wyr pwy/ vn hwyr hael
27 chwaer ydyw/r ddyn towyn tes
28 i ferch wgan farchoges
29 vn llais wyf yn lle safai
30 ar gog morwyn gyflog mai
31 a hon ni feidr ai hanwyd
32 eithr vn llais a thoryn llwyd
33 ni thay y gog ai chogor
34 krygaü merch rhwng kraig a mor
35 ni chân gywydd lonydd lw
36 nag aken ond y gwckw
37 gwys y môn mae gwas mynaich
38 fym i yn ormodd fy maich
39 yr hwn ni wna dda ddeyrew
40 lafür ond vn loewfron dew
41 [416] Di lonydd bwyll ddidwyll ddadl
42 Dylynais fal dal anadl
43 defnyddiaw yw hyrddaw hi
44 defnyddio kerdd dwfn iddi
45 yn iach bellach heb allel
46 na chydd am dani na chêl
47 Talm sydd iddi os tolia
48 ag os dodir ar dir da
49 Saith gywydd i forwfydd fain
50 syth hoywgorff a saith igain
53 Saith oedd gariad taladwy
54 ni ddyle hi i mi mwy
Davydd ap gwilim ai kant