{I forfydd}
1 Cywyddau twf cywiw-ddoeth
2 Cof hardd am rhydd cathl-fardd coeth
3 Ni bu noc wynt pwynt ampel
4 Vn organ mor annirgel
5 Mam-d? serch vn-fam vn-dad
6 dann fy-mron yn dwyn fy mrâd
7 holl gwmpas y lleidr-was llwyd
8 o hyn oll ei hennullwyd
9 [10v] Rhoeis iddi bob ryw swyddau
10 Rhugl foliant o'r meddiant mau
11 Gwrlef telyn ac orloes
12 Gormodd rhodd gwr meddw a'i rhoes
13 Hoais fel oraihian
14 Ei chlod yng-wynedd achlan
15 Hydwf y mae i'n hedeg
16 had tew llyna head teg
19 pater noster anistaw
20 pawb a'r a gant llorfdant-llaw
21 ym mhob cyfedd rhyfedd rhi
22 yw ei cherdd yn wych yrddi
23 Tafawd am tyfawdd canmawl
24 Teg ei gwen yw a men mawl
25 Canys ar ddiwedd pob gweddi
26 Cof cywir yr henwir hi
27 Chwaer ydyw tywyn-liw tes
28 I ferch Wgon farchoges
29 Vn llais wyf yn lle safai
30 Ar gog morwyn gyflog Mai
31 Honno ni fedr ai hanwyd
32 eithr vn llais a thorun llwyd
33 Ni thau y gog ai chogor
34 Crygu mae rhwng craig a mor
35 Ni chan gywydd lonydd lw
36 Nac accen onid gwccw
37 Gwys ymon mae gwas mynaich
38 fum i yn ormodd fy maich
39 Yr hwn ni wna dda ddeutrew
40 Lafur ond vn loew-fron dew
41 dilonydd bwyll ddidwyll ddadl
42 dylynais fel daly anadl
43 defnyddiaw ei hurddaw hi
44 defnyddiau cerdd dwfn iddi
47 Talm sydd iddi os tolia
48 ac o dodir ar dir da
49 Saith gywydd i forfydd fain
50 Syth hoew gorph a saith-vgain
51 Adyn o'i chariad ydwyf
52 Aed ag wynt di weuawg wyf
53 Ni ddeily gariad taladwy
54 Ni ddyly hi i mi mwy
dd' ap Gwilym