1 Kywydde twf kywiwddoeth
2 kof hardd am rydd kethlvardd koeth
3 ni bv noc wynt pwynt ampel
4 vn organ mor anirgel
5 maendy serch vn vam vn dad
6 dann fy mron yn dwyn fy mrad
7 holl gwmpas y lleidrwas llwyd
8 or hynn oll yr hennillwyd
9 rois iddi bob rvw swyddav
10 rvgl voliant or meddiant mav
11 gwrle telyn ag orloys
12 gormodd rodd gwr meddw ai roys
13 heyais val orohian
14 i chlod yngwynedd achlan
15 hydew y maen yn hedeg
16 had tew llyna head teg
19 pater noster anistaw
20 pawb ar agant lloryfdant a llaw
21 ymhob kyvedd ryvedd ri
22 yw i cherdd yn wych erddi
23 tavawd am tyvawdd kanmawl
24 teg agwen yw amen mawl
25 kans ar ddiwedd pob gweddi
26 kof kywir yr henwir hi
27 chwaer ydiw tywynliw tes
28 i verch wgan varchoges
29 vn llais wyf yn lle safai
30 ar goc morwyn gyfloc mai
31 honno ni fedr oi hannwyd
32 eithr vn llais ai thorvn llwyd
33 ni thai /r/ gog ai chogor
34 krygv mae rwng kraig a mor
35 ni chan gowydd lonvdd lw
36 nag aken onid gwckw
37 gwys y mon mae gwas mynaich
38 fvm i yn ormodd fy maich
39 yr hwn ni wna dda ddevtrew
40 lafvr ond vn loywfron dew
41 dilonydd bwyll ddidwyll ddadl
42 dylynais tal dal i anadl
43 dyfnyddiaw i hvrddaw hi
44 dyfnyddies gerdd dwfn erddi
47 tal ym sydd iddi os tolia
48 ag o dodir ar dir da
49 saith gywydd i forvydd fain
50 syth hoywgorph a saith vgain
51 a dyn oi chariad ydwyf
52 aed ac wynt ac dievawc wyf
53 Cof am gariad tyladwy
54 ni ddyly hi imi mwy.
dauid ap Gwilim ai kant