â â â Nodwyddau Serch
1â â â Dy gariad, Indeg oroen,
2â â â Dygn y sydd, huelydd hoen,
3â â â Ynof, gwas o nwyf a gwedd,
4â â â Yn fy mlino naw mlynedd.
5â â â Ni bu ar les ei dadmaeth
6â â â O hir gydmeithas was waeth.
7â â â Moethus o was, lleas llaw,
8â â â Metheddig fab maeth iddaw.
9â â â Llyna, Forfudd ddiledryw,
10â â â A gaf o dâl, gofid yw.
11â â â Py lan bynnag ydd elych,
12â â â Na Sul na gwyl, f'annwyl fych,
13â â â Caeed a wnaf, fy nyn llwyd,
14â â â Ddeuddwrn i'r lle ydd eddwyd,
15â â â Ac yno, em y genedl,
16â â â Oganus, chwarëus chwedl,
17â â â Torri fy llygaid terrwyn
18â â â Ar dy hyd, f'anwylyd fwyn.
19â â â Ef a fydd y dydd ai deg
20â â â O nydwyddau, ai deuddeg,
21â â â O'r amrant, er ymrwystr fydd,
22â â â Bugeilaeth serch, bwygilydd,
23â â â Hyd nad ymweisg, ddyn ddoethgall,
24â â â Un, aur ei llun, ar y llall.
25â â â Tra fo fy llygaid, haid hawl,
26â â â Yn agored engiriawl,
27â â â Glaw a ddaw, dyn gloyw-wedd wyd,
28â â â O sugn y fron a ysigwyd.
29â â â O ddinau'r ddeunant ar lled
30â â â Odd yno, fy eidduned,
31â â â Meddylia hyn, y feinferch,
32â â â Meddyliau o sugnau serch,
33â â â Y daw glaw yn ôl praw prudd
34â â â Hyd y farf, hydwf Forfudd.
35â â â Cyd bwyf dalm, er salm, o'r Sul
36â â â Yn y glwysgor, un glasgul,
37â â â Ni'm gwrthyd, dyfryd difreg,
38â â â Pawb o'r plwyf, er nad wyf deg.
39â â â Cyfraith serch y sy'n erchi,
40â â â Cymer dy hun yt, fun, fi.