| Nodwyddau Serch | |
| Dy gariad, Indeg oroen, | |
| Dygn y sydd, huelydd hoen, | |
| Ynof, gwas o nwyf a gwedd, | |
| 4 | Yn fy mlino naw mlynedd. |
| Ni bu ar les ei dadmaeth | |
| O hir gydmeithas was waeth. | |
| Moethus o was, lleas llaw, | |
| 8 | Metheddig fab maeth iddaw. |
| Llyna, Forfudd ddiledryw, | |
| A gaf o dâl, gofid yw. | |
| Py lan bynnag ydd elych, | |
| 12 | Na Sul na gŵyl, f'annwyl fych, |
| Caeed a wnaf, fy nyn llwyd, | |
| Ddeuddwrn i'r lle ydd eddwyd, | |
| Ac yno, em y genedl, | |
| 16 | Oganus, chwarëus chwedl, |
| Torri fy llygaid terrwyn | |
| Ar dy hyd, f'anwylyd fwyn. | |
| Ef a fydd y dydd ai deg | |
| 20 | O nydwyddau, ai deuddeg, |
| O'r amrant, er ymrwystr fydd, | |
| Bugeilaeth serch, bwygilydd, | |
| Hyd nad ymweisg, ddyn ddoethgall, | |
| 24 | Un, aur ei llun, ar y llall. |
| Tra fo fy llygaid, haid hawl, | |
| Yn agored engiriawl, | |
| Glaw a ddaw, dyn gloyw-wedd wyd, | |
| 28 | O sugn y fron a ysigwyd. |
| O ddinau'r ddeunant ar lled | |
| Odd yno, fy eidduned, | |
| Meddylia hyn, y feinferch, | |
| 32 | Meddyliau o sugnau serch, |
| Y daw glaw yn ôl praw prudd | |
| Hyd y farf, hydwf Forfudd. | |
| Cyd bwyf dalm, er salm, o'r Sul | |
| 36 | Yn y glwysgor, un glasgul, |
| Ni'm gwrthyd, dyfryd difreg, | |
| Pawb o'r plwyf, er nad wyf deg. | |
| Cyfraith serch y sy'n erchi, | |
| 40 | Cymer dy hun yt, fun, fi. |