Nodwyddau Serch
Mae dy gariad, [y ferch o] ddisgleirdeb Indeg,
llyffetheiriwr nwyd, yn llym iawn
y tu fewn i mi, [fel] llanc bywiog a golygus,
4 yn fy mhoeni ers naw mlynedd.
Ni fu llanc gwaeth mewn cyfathrach hir
o ran lles i'w dad maeth.
Llanc wedi'i faldodi, llofrudd isel,
8 mab maeth di-werth fu iddo.
Dyna'r tâl a gaf,
Forfudd fonheddig, mae'n boendod.
I ba eglwys bynnag yr ei di,
12 boed Sul neu wyl (o na baet yn gariad i mi),
gwasgaf fy nyrnau yn y lle'r aethost,
fy merch welw,
ac yn y fan honno, tlws [dy] dylwyth,
16 (hanes cellweirus [ond] gwaradwyddus)
bwrw fy llygaid trachwantus
ar hyd dy gorff, f'anwylyd dyner.
Fe fydd p'un ai deg neu ddeuddeg
20 o nodwyddau bob dydd
o'r naill amrant i'r llall,
gwarchodaeth serch, i beri rhwystr y bydd,
nes na all y naill amrant wasgu ar y llall,
24 merch ddoeth a chyfrwys, aur ei golwg.
Tra bo fy llygaid yn annioddefol agored,
erlyniad gan haid,
daw glaw (rwyt yn ferch loyw ei hwyneb)
28 o hylif y fron a anafwyd.
O ffrydio'r ddwy nant ar led
oddi yno, fy nyhead,
(meddylia hyn, y ferch fain,
32 meddyliau o hiwmorau serch)
y daw glaw ar ôl profedigaeth ddwys
ar hyd y farf, Forfudd siapus.
Er fy mod i yn y côr hardd am sbel ar y Sul
36 er mwyn salmau, un gwelw a thenau [ydwyf],
nid yw pawb o bobl y plwyf yn fy ngwrthod,
un trist a diddichell, er nad wyf yn olygus.
Cyfraith serch sy'n hawlio,
40 cymer fi i ti dy hunan, ferch.