llyma gywydd y nydwyddau
1 Dy gariad vn deg oroen
2 dygy y sydd hy vebydd hoen
3 [293r] ynof gwas o nwyf a gwedd
4 yny mlinaw naw mlynedd
5 ny bu ar les i dadmaeth
6 o hir gedmeithias was waeth
7 moethus o was lleas llaw
8 methedig vab maeth vdaw
9 llyna vorfydd ddiledryw
10 a gaf o dal govud yw
11 pa le bynnag i ddelych
12 na sul na gwyl vannwyl vych
13 kered a wnaf vy nyn llwyd
14 ddaudwyn ir lle i ddydwyd
15 ag yno em y genedl
16 goganus chwarauvs chwedl
17 torri vy llygaid terwyn
18 ar dy hyd vy nwylyd vwyn
19 ef a vydd y dydd au deg
20 o nydwyddav au dauddeg
21 or amrant er ymrwystr vydd
22 bigailaeth serch bwy gilydd
23 hyd na ymwaisg ddyn ddoethgall
24 vn aur i llvn ar y llall
25 try vo vy llygaid haid hawl
26 yn agored en gairiawl
27 glaw a ddaw ddyn glewaidd wyd
28 o sygv y vronn a sigwyd
29 o ddinau i ddant ar lled
30 o ddyno vy aiddvned
31 meddylia hynn y vainverch
32 meddylav o sygnau serch
33 i daw glaw yn ol praw prudd
34 hyd y varf hydwy vorfudd
35 kyd bwyf dalm or salm ar sul
36 yny glwysgor vn glasgul
37 nym gwrthyd daufryd difreg
38 pawb or plwyf er nad wyf deg
39 kyfraith serch a sy n erchi
40 kymer dy hun vy vn vi y vun vi
Davydd ap Gwilym ai kant