I Forfydd.
1 Dy gariad deg i gor-oen
2 dygn y sydd huelydd hoen
3 Ynof gwas o nwyf a gwedd
4 yn y mlino naw mlynedd
5 Ni bu ar 1ês ei dad-maeth
6 O hir gymdeithas was waeth
7 Mwythus o was llias llaw
8 metheddic mab maeth iddaw
9 llyma Forfydd fireinryw
10 a gaf o dâl gofid yw.
11 Pa lam bynnac yr elych
12 na Sul na gwyl f'annwyl fych
13 Cau a wnaf fy nynyn llwyd
14 ddeu-ddwrn ir lle y ddeddwyd
15 Ac yna em y genedl
16 Oganus chwareus chwedl
17 [212v] Torri fy llygaid terwyn
18 ar dy hyd f'anwylyd fwyn
19 Ef a fydd y dydd ai dec
20 o nodwyddau ai deu-ddec
21 or amrant er ymrwystr fydd
22 bugeiloed serch bwy gilydd
23 Hyd nad ymwasc fun ddwysgall
24 vn awr ei llun ar y llall
35 Cyd bwyf er ys talm salm sul
36 yn eglwysgor vn glas-gul
25 Tra fo fy llygaid haid hawl
26 yn agored enguriawl
27 Glaw a ddaw ddyn gloew-dda wyd
28 o sugn y fron a yssigwyd
29 O ddineu ddeu-nant ar lled
30 o ddyna fy eidduned
31 Meddylia hyn ddiweir-ferch
32 meddyliau o siamplau serch
37 Nim gwrthyd hyfryd difreg
38 neb o'r plwyf er nad wyf deg
39 Cyfraith serch sydd yn erchi
40 Cymer dy hun it fun fi.
Dafydd ap Gwilym.