{ko: cariad}
1 Dy gariad deg igoroen
2 dygn ysydd huelydd hoen
3 ynof gwas o nwyf a gwedd
4 yn vymlinaw naw mlynedd
5 ni bu ar les i dadmaeth
6 o hir gymdeithas was waeth
7 mwythus owas llias llaw
8 metheddig mab maeth iddaw
9 llyma Vorvydd vyreinrhyw
10 a gaf o dal gofid yw
11 pa lann bynac yr elych
12 na sul na gwyl vanwylwych
13 cau a wnaf vy nynyn llwyd
14 ddeuddwrn ir lle i ddeddwyd
15 ag yno em y genedl
16 oganvs chwareus chwedl
17 torri vy llygaid terrwyn
18 ar dy hyd v'anwylyd vwyn
19 ef a vydd y dydd ai deg
20 o nodwyddae ai deuddeg
21 or amrant ir ymrwystr vydd
22 bigeiloed serch bygilydd
23 hyd nad ymwasg vvn ddwysgall
24 vn aur i llvn ar y llall
35 cyd bwyf erstalm ar salm sul
36 yn eglwysgor vn glasgul
25 tra vo vy llygaid haid hawl
26 yn egored anguriawl
27 glaw a ddaw ddyn gwywoc wyd
28 o sygyn y vron ai sigwyd
29 oddinev ddeuneint ar lled
30 oddyna vy eidduned
31 meddylia hyn ddiweirverch
32 meddyliae o symae serch
37 ni'm gwrthyd dyfryd difreg
38 neb or plwyf er nad wyf deg
39 cyfraith serch sydd yn erchi
40 cymer dy hvn yt vvn vi
Dauid ap Gwilim