kywydd y nydwyddav
1 Dy gariad vn deg oroen
2 dygv y sydd hv vebydd hoen
3 ynof gwas o nwyf a gwedd
4 yny mlinaw naw mlynedd
5 ny bv ar les i dadmaeth
6 o hir gedmaithias was waeth
7 moethus o was lleas llaw
8 methedig vab maeth vdaw
9 llyna Vorfydd ddiledryw
10 a gaf o dal govud yw
11 py lann bynnag i ddelych
12 na sul na gwyl vannwyl vych
13 kerdded a wnaf vy nyn llwyd
14 ddauddwyn ir lle i ddeddwyd
15 [511] ag yno em y genedl
16 goganvs chwarayys chwedl
17 torri vy llygaid terwyn
18 ar dy hyd vy nwylyd vwyn
19 ef a vydd y dydd au deg
20 o nydwyddav ai dauddeg
21 or amrant er ymrwystr vydd
22 bigailaeth serch bwygilydd
23 hyd nad ymwaisg ddyn ddoethgall
24 vn aur i llvn ar y llall
25 tra vo vy llygaid haid hawl
26 yn agored en gairiawl
27 glaw a ddaw dyn glewaidd wyd
28 o sygv y vronn a sigwyd
29 o ddinav i ddauant ar lled
30 o ddyno vy aiddvned
31 meddylia hynn y vainferch
32 medelav o sygnav serch
33 y daw glaw yn ol praw prudd
34 hyd y varf hydwy Vorfudd
35 kyd bwyf dalm or salm ar sul
36 yny glwysgor vn glasgul
37 nym gwrthyd ddaufryd ddifreg
38 pawb or plwyf er nad wyf deg
39 kyfraith serch a sy n erchi
40 kymer dy hvn y vvn vi
Davydd ap gwilim ai kant