â â â Yr Uchenaid
1â â â Uchenaid wedn aflednais 
2â â â A'm pair heb enni i'm pais. 
3â â â Uchenaid, oer rynnaid ran, 
4â â â A dorres yn bedeirran 
5â â â Bron a'i deily, bryn y dolur: 
6â â â Braidd na'm hyllt o'i gorwyllt gur. 
7â â â O nythlwyth cofion, bron brid, 
8â â â Anathlach o anoethlid, 
9â â â Cyfyd rhyw dôn ohonof 
10â â â Cyfyng, cawdd ethrycyng cof. 
11â â â Cynnwrf mynwes, tylles twyll, 
12â â â Cynnil ddiffoddwraig cannwyll, 
13â â â Cawad o drowynt cywydd, 
14â â â Cae nïwl hir feddwl fydd. 
15â â â Pawb a debig pan ddigiwyf, 
16â â â Pe bai ddysg, mae pibydd wyf. 
17â â â Mae o anadl mwy ynof 
18â â â Nog yng nghau meginau gof. 
19â â â Uchenaid, lifaid lafur, 
20â â â O'r blaen a dyr maen o'r mur. 
21â â â Rhiain a'i pair, gair gorfyn, 
22â â â Rhuad dig yw ar hyd dyn. 
23â â â Awel glaw i grinaw'r gran, 
24â â â Ef yw gwynt hydref hoedran. 
25â â â Ni bu wenith na nithid 
26â â â Wrth hon pan fai lon o lid. 
27â â â Athrist fy swydd es blwyddyn, 
28â â â Eithr Morfudd ni'm dyhudd dyn.