Yr Uchenaid | |
Uchenaid wedn aflednais | |
A'm pair heb enni i'm pais. | |
Uchenaid, oer rynnaid ran, | |
4 | A dorres yn bedeirran |
Bron a'i deily, bryn y dolur: | |
Braidd na'm hyllt o'i gorwyllt gur. | |
O nythlwyth cofion, bron brid, | |
8 | Anathlach o anoethlid, |
Cyfyd rhyw dôn ohonof | |
Cyfyng, cawdd ethrycyng cof. | |
Cynnwrf mynwes, tylles twyll, | |
12 | Cynnil ddiffoddwraig cannwyll, |
Cawad o drowynt cywydd, | |
Cae nïwl hir feddwl fydd. | |
Pawb a debig pan ddigiwyf, | |
16 | Pe bai ddysg, mae pibydd wyf. |
Mae o anadl mwy ynof | |
Nog yng nghau meginau gof. | |
Uchenaid, lifaid lafur, | |
20 | O'r blaen a dyr maen o'r mur. |
Rhiain a'i pair, gair gorfyn, | |
Rhuad dig yw ar hyd dyn. | |
Awel glaw i grinaw'r gran, | |
24 | Ef yw gwynt hydref hoedran. |
Ni bu wenith na nithid | |
Wrth hon pan fai lon o lid. | |
Athrist fy swydd es blwyddyn, | |
28 | Eithr Morfudd ni'm dyhudd dyn. |