| Yr Uchenaid | |
| Uchenaid wedn aflednais | |
| A'm pair heb enni i'm pais. | |
| Uchenaid, oer rynnaid ran, | |
| 4 | A dorres yn bedeirran |
| Bron a'i deily, bryn y dolur: | |
| Braidd na'm hyllt o'i gorwyllt gur. | |
| O nythlwyth cofion, bron brid, | |
| 8 | Anathlach o anoethlid, |
| Cyfyd rhyw dôn ohonof | |
| Cyfyng, cawdd ethrycyng cof. | |
| Cynnwrf mynwes, tylles twyll, | |
| 12 | Cynnil ddiffoddwraig cannwyll, |
| Cawad o drowynt cywydd, | |
| Cae nïwl hir feddwl fydd. | |
| Pawb a debig pan ddigiwyf, | |
| 16 | Pe bai ddysg, mae pibydd wyf. |
| Mae o anadl mwy ynof | |
| Nog yng nghau meginau gof. | |
| Uchenaid, lifaid lafur, | |
| 20 | O'r blaen a dyr maen o'r mur. |
| Rhiain a'i pair, gair gorfyn, | |
| Rhuad dig yw ar hyd dyn. | |
| Awel glaw i grinaw'r gran, | |
| 24 | Ef yw gwynt hydref hoedran. |
| Ni bu wenith na nithid | |
| Wrth hon pan fai lon o lid. | |
| Athrist fy swydd es blwyddyn, | |
| 28 | Eithr Morfudd ni'm dyhudd dyn. |