Yr Uchenaid
Mae ochenaid arw aflednais
yn peri imi [fod] heb [fy] nghynnwys yn fy ngwisg.
Ochenaid, oer ran chwythedig,
4 a dorrodd yn bedair rhan
[y] fron sy'n ei dal, uchelder y dolur:
mae bron â'm hollti gyda'i chur ffyrnig.
O lond nyth o gofion, bron werthfawr,
8 (rhyw ochenaid o wylltineb annoeth),
cyfyd rhyw dôn gyfyng ohonof,
digofaint ochr gul y cof.
Cyffro mynwes, ffau twyll,
12 medrus ddiffoddwraig cannwyll,
cawod o gorwynt cywydd,
bydd yn glawdd o niwl hir ystyried.
Mae pawb yn tebygu, pan ddigiaf,
16 pe bai [gennyf] ddysg, mai pibydd ydwyf.
Mae mwy o anadl ynof
nag yng ngheudod meginau gof.
Ochenaid, gwaith wedi'i hogi,
20 o'r [tu] blaen a dyr faen o [unrhyw] fur.
Merch sy'n ei hachosi, gair taer,
rhuad creulon ydyw ar hyd [corff] dyn.
Awel glaw i grino'r rudd,
24 ef yw gwynt hydref gofid.
Ni bu wenith na nithid
gan hon pan fu'n gynhyrfus o wylltineb.
Trist iawn yw fy swydd ers blwyddyn,
28 ac eithrio Morfudd ni'm cysura [unrhyw] ferch.