1 Nevd mae ervai atarveirdd traeth
2 nevd manwyrdd koedydd wyd weddiaeth
3 nevd meinwedyn gan edyn ganiaeth aneawd
4 nev mi ai heurawdd nevd mau hiraeth
5 Nid yr nachaffwyf lownwyf luniaeth
6 Newyddion roddion y mon a maeth
7 Nid eisiau heiliau hael wasanaeth byd
8 nid heb anwylyd hybion alaeth
9 nevd temlau byrddau beirdd ys gavaeth
10 Nevd teulu eirian teuluwriaeth
11 Namun hyn duw gwyn gwenidogaeth serch
12 nad am annerch mowrchwant neud gwaeth
13 Na wela Ievan ddiuan ddofaeth
14 Na wyl yntau vi ri rywiogaeth
15 Nevd af anwylaf unoliaeth attaw
16 nid wyf hy hebddaw ddifraw ddofraeth
17 gwyllt wyf tra gwelwyf gwaly mabolaeth
18 gwen a wys ynof gwin wasanaeth
19 gwely gwydyn ym dry treftatogaeth braw
20 o gyoedd wylaw gywyddolaeth
21 gwyrdd gae ywr lle mae mi ai rrydraeth
23 gwyndir kryf lle tyf tavarnwriaeth hoed
24 a gwydyr egin koed gwyw diriogaeth
25 gwelaf yn benaf i vn benaeth
26 gwalch o hil lowdden gweilch helyddiaeth
27 gwaredveirdd ydiw gwirodvaeth kerddawr
28 gwawr a garodd awr y gerddwriaeth
29 gwas dioc vyddaf ym gwesteiaeth
30 gwastad erbyniad ywr aur bennaeth
31 gwaenwyn gwyn ankwyn i vn kaeth vyddaf
32 gaiaf kynhayaf a haf hyvaeth
33 da kadwai owdur dec keidwadaeth
34 da a vyn ym gnawd di ofn ym gwnaeth
35 durgrwydr yw dor brwydr a dyr brevdraeth mor
36 dor difraw ragor deifr wriogaeth
37 divanwl eiriol arial penaeth
38 divai medd pob rrai y rrydd luniaeth
39 defodiad trwsiad treisiaeth a gynail
40 devodau huail hail ehelaeth
41 dibwl divygwl bendefigaeth
42 di ball dyn arall nid vn wriaeth
43 divai dor ervai dewr arvaeth drud chwyrn
44 divan aur deyrn dwfn wrdaeth
45 da vyglaryf gwyr lyr vilwriaeth
46 divyglodd vi da vugeiliaeth
47 dwbled ym rym rwymedigaeth llurig
48 diblyc mad edmyc ywr mau dadmaeth
dd: ap gwylym ai kant i Ieuan I
llwyd ap Ieuan vwyaf o enau y glyn