Nodiadau: 101 - Yr Uchenaid

GDG 109

Cywydd sy'n cwyno am y poenau a achosir gan serch yw hwn. Ond effaith anuniongyrchol a gaiff serch yma, a hynny drwy gyfrwng uchenaid (y ffurf wreiddiol ar ochenaid, gw. y nodyn ar l. 1 isod). Mae'n debyg fod cynodiadau uchenaid yma yn fwy grymus na chynodiadau presennol ochenaid (ceir gwanhau nid annhebyg yn hanes y gair Saesneg sigh), ac mae effaith gorfforol yr uchenaid yn rhan amlwg o'r gerdd hon. Roedd yr uchenaid yn fotiff cyffredin yn y canu serch cyfandirol (DGEC 138), a dadleuodd D. J. Bowen ei bod yn elfen bwysig (er nad yw'n cael ei henwi) yn 'Cystudd y Bardd' (103; gw. y nodyn cefndir). Fel yn achos rhai o gerddi eraill Dafydd (e.e. 51 'Y Don ar Afon Dyfi', 108 'Rhag Hyderu ar y Byd', 113 'Yr Het Fedw' a 114 'Gwallt Morfudd') enwir Morfudd am y tro cyntaf yn llinell olaf y gerdd.

Cynghanedd: croes 4 ll. (14%), traws 5 ll. (18%), sain 14 ll. (50%), llusg 5 ll. (18%).

Ceir y gerdd hon mewn rhyw 34 o gopïau. Roedd wedi'i diogelu mewn pedair ffynhonnell gynnar, sef Llyfr Gwyn Hergest (copi yn Wy 2 ac amrywiadau yn Pen 49 ), Llyfr Wiliam Mathew (copi yn Pen 49 a fersiynau tebyg iawn yn Ll 6 ac yn llawysgrifau Llywelyn Siôn), Pen 57, a'r Vetustus (copïau yn Ba (M) 17, Gwyn 4, Ll 120, ac amrywiadau yn Pen 49). Ceir y fersiwn llawnaf yn LlGH, a threfn llinellau y fersiwn hwnnw a ddilynir yn y golygiad hwn. Yr un drefn a geir yn y ffynonellau cynnar eraill, gyda'r eithriadau canlynol—LlWM: llau. 3–4 a 19–20 yn eisiau; Pen 57: llau. 3–4 a 19–20 yn eisiau a llau. 25–6 yn dilyn ll. 14; y Vetustus: llau. 3–4, 19–20, a 25–6 yn eisiau a llau. 21–22 yn dilyn ll. 14. Dilynir trefn y Vetustus gan lawysgrifau eraill sy'n pherthyn yn agos iddo, e.e. Bl e 1, G 4, LlGC 560, a M 146. Trefn gyfansawdd na cheir yn unrhyw un o'r llawysgrifau pwysig sydd yn GDG. Yr hyn a geir yno yw trefn llinellau'r Vetustus gyda'r cwpledi coll wedi'u hychwanegu fel y maent yn fersiwn LlGH. Gan hynny, trefn GDG yw 1–14, 21–2, 15–28. Gwelir o'r uchod fod y dystiolaeth o blaid llau. 3–4 a 19–20 yn bur wan, gan nad ydynt ond i'w cael yn fersiwn LlGH (ond gw. y nodyn ar grynnaid isod [ll. 3]). Gellid eu hepgor o'r golygiad (ac felly ddilyn trefn LlWM) a chael fersiwn cwbl synhwyrol.

1. uchenaid   Dyma ffurf C.C.; datblygiad diweddarach dan ddylanwad och yw'r ffurf ochenaid, gw. GPC 2615.

2. heb enni   Ar genni 'cael ei gynnwys, cael lle (yn); cynnwys', gw. GPC 1380 d.g. gannaf: genni. Mewn rhai ffurfiau o'r ferf roedd tuedd i golli'r g- ddechreuol, gw. hefyd PKM 168.

3–4. Uchenaid, oer rynnaid ran, / A dorres yn bedeirran   Cf. y cwpled hwn o gywydd Gruffudd Gryg 'I'r Lleuad': 'Pob uchenaid, rynnaid ran, / A dorrai graig yn deirran' (BBBGDd 84 [39.19–20]). Cymerir bod ystyr cwpled Dafydd yn goferu i l. 5. Fodd bynnag, mae'r dystiolaeth lawysgrifol o blaid y cwpled hwn yn bur wan (gw. y nodyn cefndir uchod ond hefyd y nodyn ar grynnaid isod), felly mae'n bosibl y dylid ei hepgor.

3. grynnaid   Ansoddair anghyffredin ac iddo'r ystyr 'a ollyngir neu a yrrir allan, a anedlir allan', gw. GPC 1541. Ni nodir yno ond dwy enghraifft, sef hon a'r un gan Ruffudd Gryg a ddyfynnir yn y nodyn uchod. Tybed ai dieithrwch y ffurf sydd i gyfri am absenoldeb y cwpled hwn o dair o'r ffynonellau cynnar?

5. deily   Ar y ffurf unsill hon, gw. GMW 10.

bryn   Ar yr ystyr 'uchelder, amlygrwydd', gw. GDG 454–5 a GPC 339.

6. o'i gorwyllt gur   Dyma'r darlleniad a awgrymir gan Pen 49 (o LlWM) (y darlleniad o'r gorwyllt gur a ffefrir gan lawysgrifau Llywelyn Siôn ac mae testun Ll 6 yn bur wahanol yma). Y darlleniad a awgrymir gan y tair ffynhonnell gynnar arall yw â'i gorwyllt gur. Ond dilynwyd Pen 49 (a GDG) gan mai o'i gorwyllt gur yw'r darlleniad anhawsaf a gellir esbonio'r darlleniadau eraill fel ymdrech i'w 'gywiro'. Ar o yn yr ystyr 'â (yn dynodi offeryn etc.)', gw. GPC 2609.

7. cofion   Dyma ddarlleniad LlGH a LlWM; yn Pen 57 a'r Vetustus ceir calon. Mae'r ddau yn bosibl, ond dilynwyd LlGH a LlWM gan fod y ffurf luosog cofion yn rhoi gwell ystyr yn dilyn nythlwyth.

8. anathlach   Dyma'r darlleniad a awgrymir gan LlGH, LlWM a Pen 57. Fe'i nodir yn betrus yn GPC 109 gyda'r ystyr 'ochenaid', gan awgrymu ei fod yn tarddu o anaddl (ffurf ar anadl) + -ach. Mae grŵp y Vetustus yn awgrymu'r darlleniad yn athlach. Ni cheir athlach yn GPC, ond yn GDG 526 mae Thomas Parry yn tynnu sylw at y gair Gwyddeleg athláech 'an ex-layman, one who becomes a monk when old, a dotard', gan ddyfynnu o Kuno Meyer, Contributions to Irish Lexicography (Haller, 1906), 150. Petai athlach yn fenthyciad o hwnnw gellid rhedeg yr ystyr ymlaen i l. 9: Yn athlach o anoethlid, / Cyfyd rhyw dôn ohonof. Ond heb enghreifftiau pellach y mae'r esboniad hwn yn bur annhebygol.

9. rhyw dôn   Darlleniad GDG yw rhyw sôn, sy'n seiliedig ar y Vetustus a'r llawysgrifau sy'n rhannu'r un drefn ag ef. Ond don neu donn yw'r ail air yn y tair ffynhonnell gynnar arall, sy'n awgrymu'r darlleniad rhyw don neu rhyw dôn. Yn Pen 49 ceir don, a chan mai bronn, honn, a lonn sydd yn llau. 5 a 26, rhyw dôn a ffefrir gan y darlleniad hwnnw. Nid yw orgraff Wy 2 o gymorth, ond mae donn Pen 57 yn tueddu i ffafrio rhyw don. Llafariad hir sydd yn tôn, wrth gwrs, ac mae'n debyg yr ystyrid cynghanedd lusg rhwng rhyw don ac ohonof yn enghraifft o'r bai 'Trwm ac Ysgafn', gw. CD 232–3. Gallai tôn fod yn wrywaidd yn y cyfnod hwn (GPC 3520), ac felly nid yw'r ffaith fod cyfyng ll. 10 (sy'n goleddfu'r ymadrodd hwn) yn ddidreiglad yn peri problem. Er bod rhyw sôn hefyd yn ddichonadwy, penderfynwyd dilyn y llawysgrifau cynharaf.

10. ethrycyng   Gair anghyffredin a barodd gryn broblem i nifer o'r copïwyr. Ac eithrio hon, daw pob enghraifft a nodir yn GPC 1255 o fersiynau o Brut y Brenhinedd, e.e. Henry Lewis (gol.), Brut Dinegstow (Caerdydd, 1942), 137 (llau. 24–6): Ac nyt oes neb kyuryw ford yn y byt y gallet mynet ohonav na dyuot idav namyn ar hyt ethrykyg un garrec kyuyng ysyd o'r castell hyt y tir. Yr ystyr a rydd GPC yw 'cyfwng cul, rhimyn main (sianel neu fraich o fôr, gwddf cul o dir, etc.)'. Byddai'r ystyr 'pib' yn addas yma o gofio am y cyfeiriad at y dôn yn ll. 9 (gw. y nodyn uchod), ond ni chafwyd enghreifftiau eraill o'r ystyr honno.

14. cae nïwl   Ystyr cae yma yw 'gwrych, sietin, perth, clawdd', gw. GPC 382. Ar y ffurf ddeusill nïwl cymh. 57.52. Cyfeirir at 'gae niwl' hudolus yn chwedl Geraint fab Erbin, gw. Robert L. Thomson (gol.), Ystorya Gereint uab Erbin (Dublin, 1997), 50–1 (llau. 1355–1362): 'Dywed,' heb y Gereint, 'pa ford oreu y mi gerdet o'r dwy hynn?' 'Goreu it gerdet honno,' heb ef; 'od ey y hon issot ny deuy dracheuyn uyth. Issot,' heb ef, 'y mae y kae nywl, ac y mae yn hwnnw gwareyeu lledrithyawc. A'r gyniuer dyn a edyw yno, ny dodyw uyth dracheuyn. A llys Eywein iarll yssyd yno, ac ny at neb y lettya yn y dref namyn a del attaw y lys.' 'Y rof a Dyw,' heb y Gereint, 'y'r ford issot awn ni.' Ar y cysylltiad posibl â Niwl Iarll (tad Enid, gwraig Geraint), gw. TYP3 464.

16. pe bai ddysg   Cymerir bod hyn yn cyfeirio at siaradwr y gerdd, ac felly aralleiriwyd 'pe bai [gennyf] ddysg'. Ond mae aralleiriadau eraill yn bosibl.

8. cau   Yma'n enw 'ceudod, gwactod', gw. GPC 441.

19–20. Uchenaid... / ... a dyr maen   Cymh. y cwpled gan Ruffudd Gryg a ddyfynnir uchod llau. 3–4n.

24. hoedran   Ar hoedran 'gofid, tristwch' (o hoed + rhan), gw. GPC 1884. Nodir yno'n betrus y gall hefyd fod yn ansoddeiriol 'yn peri gofid, annedwydd'.