k. ar ychenaid y Bardd
1 Ychenaid wedn aflednais
2 Am pair heb enni ym pais
3 Vchennaid oer rynnaid ran
4 A dorres yn bedairran
5 Bron ai dyly bryn y dolur
6 Braidd nam hyllt ai gorwyllt gur
7 Oni ludd kovion bron brid
8 Anathlach o annoethlid
9 Kyfud ryw don o honof
10 Kyfing kawdd a thrykin kof
11 Kynnwrf mynwes tylles twyll
12 Kynnil diffodwraig kanwyll
13 Kavad o drowynt kywydd
14 Kae nywl hir veddwl vydd
15 Pawb a debig pan ddigiwyf
16 Pa bai dysc mae pibydd wyf
17 Mae o anadl mwy ynof
18 Nog yngkau meginau gof
19 Vchenaid lifaid lafur
20 Or blaen a dur maen or mur
21 Riain ai pair gair gorvyn
22 Ruad dig yw ar hyd dyn
23 Awel glaw i grinawl /r/ gran
24 Ef yw gwynt hydref hoedran
25 Ni bu wenith ni nithid
26 Wrth hon pan vai lon o lid
27 A thrist vu swyddes blwyddyn
28 Eithr morvydd min dyvodd dyn
dd' ap Gwilim