â â â Y Galon
1â â â Oio galon bengron bach,
2â â â Ddieres chwaen ddieiriach,
3â â â A fu dryll fwy ei drallawd
4â â â No thydy, gwehydd-dy gwawd?
5â â â Palmeres, mynwes a'i maeth,
6â â â Penwyn gyhyryn hiraeth,
7â â â Cron forwyn ryderrwyn daer,
8â â â Cruglwyth meddyliau croywglaer.
9â â â Llonydd fydd, fodd difocsach,
10â â â Llenwi y bydd llun wy bach.
11â â â Hon a bair, cadair ceudawd,
12â â â Henw amddyfrwys, gwennwys gwawd,
13â â â Rhuad gwyllt, ddyn rhyod gwael
14â â â Rhyhy yn serchog rhyhael.
15â â â Ystyried windraul deulu
16â â â Y ddiod fedd, ddäed fu:
17â â â Hon a wna, anrhegfa rhawg,
18â â â Hwyl berw llif, hael byrllofiawg,
19â â â Palmer budr, pwl marw bidin,
20â â â Paeled oer heb bil y din,
21â â â A rhylew ar heolydd,
22â â â Wyneb oer, yno ni bydd
23â â â Heb ai cael, heibio ciliwyf,
24â â â Dolur, ai clau wneuthur clwyf.
25â â â Yr ail ydyw ar loywdarf
26â â â Uno dros wefl fefl ar farf.
27â â â Y trydydd, ni wybydd neb:
28â â â Troau dyn trwy odineb
29â â â Yn chwenychu, chwaen uchel,
30â â â Dwyn y dyn gwylwyn dan gêl.
31â â â Hynny yw gwraidd yr heiniau,
32â â â Henw swydd falch, honno sydd fau.
33â â â Nid mwy rhyfel dan geli
34â â â Dyn na mil, myn Duw, no mi
35â â â Yn caru, nesäu serch,
36â â â Er anfodd pawb, yr unferch,
37â â â Pobl wrthrych, llewych llywy,
38â â â Pefr feinwyr, pawb a wyr pwy,
39â â â Mygr hyloyw, magwyr hoywloer,
40â â â Morfudd deg ei deurudd, dioer,
41â â â Hoen tes pan fai huan taer
42â â â Ar fron, olyglon loywglaer,
43â â â Haelwen leddf, heilwin lwyddferch,
44â â â Heulwen a seren y serch.