Y Galon
O! y galon fach â phen crwn,
gwaith disylw [ond] anorfod,
a fu darn a achosai fwy o gystudd
4 na thi, gweithdy gwëydd barddoniaeth?
Pererin, mynwes a'i magodd,
cig hiraeth â phen gwyn.
Merch gron daer ac angerddol iawn,
8 pentwr o feddyliau clir a disglair.
Bydd yn ddisymud, dull heddychlon,
[wedyn] bydd y siâp wy bach yn llenwi.
Mae hon (cadair y fron,
12 enw cadarn, arllwysiad barddoniaeth,
rhuo gwyllt) yn gwneud dyn anllad iawn a thruenus
yn garwr cwrtais a hyderus.
Boed i'r cwmni gwingar feddwl am
16 y ddiod fedd, mor dda y bu:
mae hon yn gwneud dyn yn afradlon o hael,
anrhegu di-ben-draw fel dwr byrlymus,
pererin brwnt, pidyn marwaidd pwl
20 fel helmed oer yn ymestyn heibio gwisg ei ben-ôl,
a [dyn] gorddewr ar heolydd,
wyneb caled, ni bydd yno
heb naill ai cael ei anafu
24 (sleifiwn i heibio), neu glwyfo rhywun yn sydyn.
Yr ail beth yw datgan ar lafar
yn fympwyol gywilydd ar farf rhywun.
Y trydydd peth, ni fydd neb yn gwybod:
28 ystrywiau dyn sy'n chwennych
cael rhyw ferch wen wylaidd
yn gudd mewn godineb, camp wych.
Dyna yw gwreiddyn y clefydau,
32 enw swydd fawreddog, honno yw f'un i.
Nid oes dyn nac anifail dan y nefoedd
mwy ei helynt, myn Duw, na fi
yn canlyn, ymgyrraedd at serch,
36 er gwaethaf gwrthwynebiad pawb, yr un ferch,
testun edmygedd y bobl, llewyrch disglair,
gloyw, main ac addfwyn, gwyr pawb pwy yw hi,
llachar ysblennydd, fel wyneb y lleuad hardd,
40 Morfudd deg ei gruddiau, yn wir,
lliw goleuni pan fo haul ffyrnig
ar fryn, siriol ei golwg ddisglair,
boneddiges dyner, merch ffyniannus sy'n darparu gwin,
44 heulwen a seren y serch.