Y Galon | |
O! y galon fach â phen crwn, | |
gwaith disylw [ond] anorfod, | |
a fu darn a achosai fwy o gystudd | |
4 | na thi, gweithdy gwëydd barddoniaeth? |
Pererin, mynwes a'i magodd, | |
cig hiraeth â phen gwyn. | |
Merch gron daer ac angerddol iawn, | |
8 | pentwr o feddyliau clir a disglair. |
Bydd yn ddisymud, dull heddychlon, | |
[wedyn] bydd y siâp wy bach yn llenwi. | |
Mae hon (cadair y fron, | |
12 | enw cadarn, arllwysiad barddoniaeth, |
rhuo gwyllt) yn gwneud dyn anllad iawn a thruenus | |
yn garwr cwrtais a hyderus. | |
Boed i'r cwmni gwingar feddwl am | |
16 | y ddiod fedd, mor dda y bu: |
mae hon yn gwneud dyn yn afradlon o hael, | |
anrhegu di-ben-draw fel dŵr byrlymus, | |
pererin brwnt, pidyn marwaidd pŵl | |
20 | fel helmed oer yn ymestyn heibio gwisg ei ben-ôl, |
a [dyn] gorddewr ar heolydd, | |
wyneb caled, ni bydd yno | |
heb naill ai cael ei anafu | |
24 | (sleifiwn i heibio), neu glwyfo rhywun yn sydyn. |
Yr ail beth yw datgan ar lafar | |
yn fympwyol gywilydd ar farf rhywun. | |
Y trydydd peth, ni fydd neb yn gwybod: | |
28 | ystrywiau dyn sy'n chwennych |
cael rhyw ferch wen wylaidd | |
yn gudd mewn godineb, camp wych. | |
Dyna yw gwreiddyn y clefydau, | |
32 | enw swydd fawreddog, honno yw f'un i. |
Nid oes dyn nac anifail dan y nefoedd | |
mwy ei helynt, myn Duw, na fi | |
yn canlyn, ymgyrraedd at serch, | |
36 | er gwaethaf gwrthwynebiad pawb, yr un ferch, |
testun edmygedd y bobl, llewyrch disglair, | |
gloyw, main ac addfwyn, gŵyr pawb pwy yw hi, | |
llachar ysblennydd, fel wyneb y lleuad hardd, | |
40 | Morfudd deg ei gruddiau, yn wir, |
lliw goleuni pan fo haul ffyrnig | |
ar fryn, siriol ei golwg ddisglair, | |
boneddiges dyner, merch ffyniannus sy'n darparu gwin, | |
44 | heulwen a seren y serch. |