â â â Cystudd y Bardd
1â â â Hoywdeg riain a'm hudai,
2â â â Hael Forfudd, merch fedydd Mai.
3â â â Honno a gaiff ei hannerch,
4â â â Heinus wyf heno o'i serch.
5â â â Heodd i'm bron, hon a hyllt,
6â â â Had o gariad, hud gorwyllt.
7â â â Heiniar cur, hwn yw'r cerydd,
8â â â Hon ni ad ym, hoywne dydd.
9â â â Hudoles a dwywes deg,
10â â â Hud yw ym ei hadameg.
11â â â Hawdd y gwrendy gyhudded
12â â â Hawdd arnaf, ni chaf ei ched.
13â â â Heddwch a gawn, dawn a dysg,
14â â â Heddiw gyda'm dyn hyddysg;
15â â â Herwr glân heb alanas
16â â â Heno wyf o'i phlwyf a'i phlas.
17â â â Hihi a roes, garwloes gwr,
18â â â Hiraeth dan fron ei herwr.
19â â â Hwy trig no'r môr ar hyd traeth
20â â â Herwr gwen yn ei hiraeth.
21â â â Hualwyd fi, hoelied f'ais,
22â â â Hual gofal a gefais.
23â â â Hwyr y caf dan ei haur coeth
24â â â Heddwch gyda'm dyn hoywddoeth;
25â â â Heiniau drwg o hyn a droes,
26â â â Hwyrach ym gaffael hiroes.
27â â â Hon o Ynyr ydd henyw,
28â â â Hebddi ni byddaf fi byw.