Cystudd y Bardd
   Merch fywiog a theg a'm hudai, 
   Morfudd hael, merch fedydd Mai. 
   Caiff honno ei chyfarch [gennyf], 
4   claf wyf heno o'i serch. 
   Heodd yn fy mron (mae hon yn hollti) 
   had o gariad, hud gwyllt iawn. 
   Cnwd o gur [ydyw], hwn yw'r cerydd, 
8   ni ad hon [lonydd] imi, [ferch] o liw disglair y dydd. 
   Hudoles a duwies deg, 
   hud yw ei llefaredd imi. 
   Yn hawdd y gwrendy gyhuddiad 
12   rhwydd yn fy erbyn, ni chaf ei rhodd. 
   Heddwch a gawn i, gras a dysg, 
   heddiw gyda'm merch ddiwylliedig; 
   herwr onest heb alanas 
16   wyf heno o'i phlwyf a'i thy. 
   Hyhi a roes (poen arw gwr) 
   hiraeth dan fron ei herwr. 
   Yn hwy yr erys na'r môr ar hyd traeth 
20   herwr gwen yn ei hiraeth. 
   Hualwyd fi, hoeliwyd fy mynwes, 
   hual o ofid a gefais. 
   Annhebyg y caf dan ei haur coeth 
24   gymod gyda'm merch fywiog a doeth; 
   (heintiau drwg o hyn a ddaeth) 
   annhebycach imi gael oes hir. 
   Mae hon yn disgyn o Ynyr, 
28   hebddi ni fyddaf fi byw.