Cystudd y Bardd
Merch fywiog a theg a'm hudai,
Morfudd hael, merch fedydd Mai.
Caiff honno ei chyfarch [gennyf],
4 claf wyf heno o'i serch.
Heodd yn fy mron (mae hon yn hollti)
had o gariad, hud gwyllt iawn.
Cnwd o gur [ydyw], hwn yw'r cerydd,
8 ni ad hon [lonydd] imi, [ferch] o liw disglair y dydd.
Hudoles a duwies deg,
hud yw ei llefaredd imi.
Yn hawdd y gwrendy gyhuddiad
12 rhwydd yn fy erbyn, ni chaf ei rhodd.
Heddwch a gawn i, gras a dysg,
heddiw gyda'm merch ddiwylliedig;
herwr onest heb alanas
16 wyf heno o'i phlwyf a'i thy.
Hyhi a roes (poen arw gwr)
hiraeth dan fron ei herwr.
Yn hwy yr erys na'r môr ar hyd traeth
20 herwr gwen yn ei hiraeth.
Hualwyd fi, hoeliwyd fy mynwes,
hual o ofid a gefais.
Annhebyg y caf dan ei haur coeth
24 gymod gyda'm merch fywiog a doeth;
(heintiau drwg o hyn a ddaeth)
annhebycach imi gael oes hir.
Mae hon yn disgyn o Ynyr,
28 hebddi ni fyddaf fi byw.