1 hoywdeg riain am hvdai
2 hael forfvdd merch fedvdd mai
3 hono a gaiff i hannerch
4 hevnvs wyf heno oi serch
5 hevodd im bron hon a hylld
6 had o gariad hvd gorwylld
7 {Heiniar Cur hwn yw'r Cerydd}
8 {hon ni ad im henwi dydd}
11 hawdd i gwrendy gyhvdded
12 hawdd arnaf ni chaf i ched
15 {herwr glan heb alanas}
16 {heddyw wyf iw phlwyf ai phlas}
9 hvdoles a dvwies deg
10 hvd yw immi i hadameg
17 hi a roes er garw loes gwr
18 hiraeth dan fron i herwr
19 hwy i trig na/r/ mor ar y traeth
20 herwr gwenn yni hiraeth
23 hwyr i kawn dan i havr koeth
24 heddwch gan ymvn hoyw ddoeth
21 hvalwyd vi hoilied fais
22 hval gofal a gefais
27 honn o ynyr i henyw
28 hebddi ni bydda fi byw
+1 {hi am gorfv i havach
+2 ha ha gwraig y bwa bach}
dauid ap Gwilim
Nodiadau
Ysgrifennwyd y llinellau ychwanegol ar amseroedd gwahanol. Mae'n
debyg i'r rhannau yn y llaw gyntaf gael eu hail-gopïo wedi i'r llawysgrif
gael ei thocio. Nid yw'n gwbl glir ymhle yr oedd yr ail gopïydd am osod y
llinellau hyn:
heddwch a gawn [ ] a dysg
[ ] gydam dyn hyddysg
heiniau drwg am hyn a droes
hwyrach im gaffel hiroes