â â â Canu'n Iach
1â â â  Hydr y gwddost, ail Indeg,
2â â â  Hoedl i'th dâl, hudoliaeth deg,
3â â â  Hoed a'm deily, hud a'm dilyn,
4â â â  Hoyw dy dwf, er hudo dyn.
5â â â  Gwaith pell o fewn gloywgell gled
6â â â  Dy dreisio rhag dy drawsed.
7â â â  Na ffo, cyfaro, forwyn,
8â â â  Nid rhaid brys i'r llys o'r llwyn.
9â â â  Trwyddedwraig llen bedwenni,
10â â â Trig a dyhudd, Forfudd, fi. 
11â â â  O doi i'r fedwgell bellach, 
12â â â  Fy nyn bychanigyn bach,
13â â â  Nid ai drachefn, wiwdrefn wych,
14â â â  Mawl a dâl, mal y delych.
15â â â  Dygn na allaf dy atal,
16â â â  Dy gaeth wyf, ddyn deg ei thâl;
17â â â  Tost na allaf, rymaf rin,
18â â â Dy orlludd dan do eurllin. 
19â â â  Ni'th ddwg tynged o'th fedydd
20â â â  Mal y'th ddug oed ymhlith gwydd.
21â â â  Dyred o'm colled i'm cael
22â â â  Lle'r addewaist, lloer dduael;
23â â â  F'ewyllys ystrywus drud
24â â â  A'i dialai be delud,
25â â â  D'ymlid heb gael proffid prudd,
26â â â  Ni chaf arfod, och Forfudd!
27â â â  Dos, f'un enaid, yn gwbliach,
28â â â  A Duw'n borth yt, y dyn bach.
29â â â Dos yn iach, gadarnach ged, 
30â â â  Dengoch fyfy o'r dynged.
31â â â  Yn iach, y dyn bach, dawn byd, 
32â â â  Ac annerch dy hun gennyd.