Canu'n Iach
Yn rhagorol y gwyddost, gymar Indeg,
hir oes i'th wedd, hudoliaeth deg,
mae hiraeth yn fy meddiannu a hud yn fy nilyn,
4 hardd yw dy ffurf, er mwyn hudo dyn.
Gwaith annhebygol mewn stafell loyw, glyd
yw dy dreisio gan mor rymus ydwyt.
Paid â ffoi, arhosa, forwyn,
8 ni raid brysio i'r llys o'r llwyn.
Lletywraig llen coed bedw,
taria a chysura fi, Morfudd.
Os doi di i'r stafell fedw bellach,
12 fy ngeneth annwyl, fechan fach,
nid ei drachefn, gwych o siambr wiw,
mae'n haeddu mawl, fel y deui.
Dygn o beth na allaf dy atal,
16 dy gaethwas wyf, ferch deg ei gwedd;
garw na allaf, hudoliaeth rymusaf,
dy rwystro dan do o ddefnydd euraid.
Ni fydd yr un dynged yn dy ddwyn oddi wrth dy ffydd
fedyddiol
20 fel y'th ddygodd oed ymhlith coed.
Tyrd oherwydd fy ngholled i'm cael
lle'r addewaist, lloer aelddu;
byddai f'ewyllys ystrywgar, beiddgar
24 yn talu'r pwyth, pe deuet,
am dy ymlid heb gael elw rhesymol,
ni chaf gyfle, och Forfudd!
Dos, fy unig anwylyd, yn holliach,
28 a Duw'n gymorth iti, yr eneth fach.
Dos yn iach, rhodd gadarnach,
och fi ddengwaith oherwydd y dynged.
Yn iach, yr eneth fach, bendith byd,
32 a chyfarcha dy hunan.