1 hydr y gwddost ail indeg
2 hoedl ith dal hudoliayth deg
3 hoed am deily hud am dylyn
4 hoyw dy dal er hudo dyn
5 gweith pell o vewn gloywgell gled
6 dy dreissiaw rag dy drawsed
7 Na ffo kyvaro vorwyn
8 Nyd rraid brys or llys ir llwyn
9 Trwyddetwraig llenn bedwenni
10 Trig a dyvdd vorvvdd vi
11 O doy ir vedwgell bellach
12 vyn nyn bychanigyn bach
13 Nyd ay dra chefn wiwdrefn wych
14 mawl a dal mal i delych
15 [ 87] Dygyn na allaf datal
16 Dy gayth wyf ddyn deg i thal
17 Tost na allaf rymaf rin
18 Dy orllud dan do aurllin
19 Nyth ddwg tynged oth vedydd
20 mal ith ddug oed ymhlith gwydd
21 dyred om kolled ym kayl
22 ller addewist lloer dduayl
23 Vewyllys ystrywys drud
24 ai dialei be delud
25 Dymlid heb gayl proffid prudd
26 Ni chaf arvod och vorvvdd
27 Dos vvn eneid yn gwbliach
28 A duw n borth yt y dyn bach
29 Dos yn iach gydarnach ged
30 Dengoch vyvi or dynged
31 yn iach dyn bach dawn y byd
32 Ac annerch dy hvn gennyd
Dauit ap guili'