â â â Llw Morfudd
1â â â Gwell eniwed, fforffed ffug,
2â â â No sorri'n wladaidd sarrug.
3â â â Da fyddai Forfudd â'i dyn
4â â â O'r diwedd, hoen eiry dywyn.
5â â â Ei chred, Luned oleuni,
6â â â A roes da ei moes i mi
7â â â O drefn ei llaw fodrwyfaich
8â â â A dihewyd bryd a braich,
9â â â Y câr fi, rhi rhywiogaeth,
10â â â O châr yr âb ei mab maeth.
11â â â Ys gwiwdwng onis gwedir,
12â â â Ys gwyn fydd fy myd os gwir.
13â â â Ni feddais fudd o gwblfodd
14â â â Erioed, er pan y'm rhoed rhodd,
15â â â Cystal â chael gan hael hwn,
16â â â Od ydiw yn rhodd didwn.
17â â â Nid gem, oferedd gymwyll,
18â â â O fedw glyn, nid dillyn twyll;
19â â â Eurychwaith Mab Mair uchaf
20â â â Â'i law noeth trwy olew Naf,
21â â â Salm o Dduw, a'i inseiliawdd
22â â â Yn grair o'i neddair a'i nawdd,
23â â â A dogn fu a digon fydd
24â â â O gwlm rhwng pawb a'i gilydd,
25â â â A dwfn ydd â a difyr
26â â â Yn y tân y dyn a'i tyr.
27â â â A'r fau finnau ar f'annwyl
28â â â A rois i un gwiwlun gwyl
29â â â Yn llw hydr, yn lle hydraul,
30â â â Yn ei llaw hi, unlliw haul,
31â â â Fal y rhoed ym o rym rhydd
32â â â Yn y dwfr, o enw, Dafydd,
33â â â Gyrddwayw o serch, iawnserch Iôr,
34â â â Ar garu hoen eiry goror.
35â â â Doniog fu'r gredaduniaeth,
36â â â Da gwn i, a Duw a'i gwnaeth.
37â â â Rhy wnaeth bun â llun ei llaw
38â â â Rhoi dyrnaid, a rhad arnaw,
39â â â Rheidlw perffeithdeg rhadlawn,
40â â â Rhinwedd y wirionedd iawn,
41â â â Llw i Dduw â'i llaw ddeau,
42â â â Llyna, od gwn, llw nid gau;
43â â â Llawendwf yn llaw Indeg,
44â â â Llw da ar hyd ei llaw deg.
45â â â Llyfr cariad fydd i'w hadaf,
46â â â Yn benrhaith erbyn yr haf.
47â â â Yn yr oerddwfr yr urddwyd
48â â â Y llw a roes Morfudd Llwyd.