Llw Morfudd
Gwell yw niwed, camwedd ffals,
na phwdu'n anghwrtais a sarrug.
Byddai Morfudd yn trin ei chariad yn dda
4 o'r diwedd, lliw disgleirdeb eira.
Rhoddodd yr un dda o ran ymarweddiad,
lliw golau Luned, ei gair i mi
trwy ddull ei llaw a llwyth o fodrwy[au] arni
8 a phenderfyniad meddwl a braich,
ei bod yn fy ngharu, yr un o dras fonheddig,
os yw'r epa'n caru ei hepil mabwysiedig.
Llw teilwng ydyw oni chaiff ei wadu,
12 byddaf yn ddedwydd os yw'n wir.
Ni chefais elw llwyr
erioed, er pan roddwyd rhodd i mi [gyntaf oll],
cystal â chael hwn gan yr un hael,
16 os yw yn rhodd gywir.
Nid tlws wedi'i wneud o goed bedw'r dyffryn,
sôn am oferedd, nid tegan twyllodrus;
addurn aur o waith Mab Mair uchaf
20 â'i law noeth trwy olew yr Arglwydd,
salm oddi wrth Dduw, a'i sêl-nododd
yn drysor o'i law a'i gynhaliaeth,
a bu'n llawn a bydd yn ddigon
24 o gwlwm rhwng pob un a'i gilydd,
ac fe aiff y sawl a fydd yn ei dorri
i'r tân yn ddwfn ac am amser maith.
A rhoddais i fy ngair innau
28 i'm cariad, i un hardd a gwylaidd,
yn llw cadarn, mewn lle darfodedig,
yn ei llaw hi, o'r un lliw â'r haul,
fel y rhoddwyd i mi o awdurdod rhydd
32 yn y dwr [bedydd] yr enw Dafydd,
poen gref o serch, serch cywir yr Arglwydd,
fy mod yn caru yr un o liw eira ar lechwedd.
Ffodus fu'r cyfamod,
36 da y gwn i, a Duw a'i gwnaeth.
Fe wnaeth merch â ffurf ei llaw
roi llond dwrn, a bendith arno,
llw difrifol perffaith a theg a llawn bendith,
40 daioni'r gwirionedd cywir,
llw i Dduw â'i llaw dde,
dyna, yn wir, llw nad yw'n ffals;
twf llawen yn llaw Indeg,
44 llw da dros ei llaw deg.
Llyfr cariad fydd hwn yn ei llaw,
yn awdurdod cyfreithiol erbyn yr haf.
Yn y dwr oer y cysegrwyd
48 y llw a roddodd Morfudd Llwyd.