kerdd i Ieuan llwyd ap Ieuan fwya ap Ieuan ap Rys ap llawdden o enav
/r/ glyn
1 nid mai nid erfai adarfeirdd traeth
2 nid manwydd koedyddwydd waethiaeth
3 nid meinwedn ganadv gyniadaeth anawdd
4 nid im hevrawdd nid mav hiraeth
5 nid er na chaffwyf loiw nwyf lvniaeth
6 newyddion rhoddion mon a maeth
7 nid eissiav heiliav hael wssanaeth byd
8 nid heb anwylyd hybiwn alaeth
9 nid temlav byrddav beirdd wssanaeth
10 nid tevlv eirian nid helwriaeth
11 namyn hynn duw gwynn gwenidogaeth serch
12 nad am annerch merch mawrchwant ai gwnaeth
13 na welaf Ievan ddifan dda faeth
14 na wyl yntav fi rhi rhowiogaeth
15 nid af anwylaf vn olaeth ataw
16 nid wyf hy hebddaw ddifraw ddofraeth
17 gwell wyf gwelwyf gwelv mabolaeth
18 gwen a wys yno gwin wssanaeth
19 gwedv ym try tref tadogaeth braw
20 gwywawdd o wylaw gwewydd oliaeth
21 [184] gwyrddgae ywr lle [ ] rhydraeth
22 gwarav o feddiant y wir afiaeth
23 gwynn dir kryf lle tyf tafarnwriaeth hoed
24 a gwydr egin koed gwiw diriogaeth
25 gwelaf yn bennaf i vn bennaeth
26 gwalch o hil lowdden gweilch helyddiaeth
27 gwaredfeirdd ydyw gwirod faeth kerdd
28 gwawr a garodd awr y gerddwriaeth
29 gwas diog fyddaf im gwesteiaeth
30 gwastad erbyniad ywr avr bennaeth
31 gwaeniwyn gwin ankwyn i vn kaeth fyddaf
32 gaiaf kynhayaf a haf hoywfaeth
33 da kadwaf awdur deg keidwadigaeth
34 da a fynn ym gnawd diofn im gwnaeth
35 dirgrwydr yw dor brwydr ar dair brevdraeth mor
36 dor difraw rhagor dwfr roiwogaeth
37 di fanawl eiriawl arial pennaeth
38 difai medd pob rhai i rhydd lvniaeth
39 dyfodiad trwsiad treisiaeth a gynail
40 deddfodav hyael hael ehelaeth
41 di bwl di fwgwl bendefigaeth
42 diball dyn arall nid vn wriaeth
43 difai derfai dewr arfaeth drvd chwyrn
44 difan avrdeyrn a dwfn wrdaeth
45 da fygylarf gwyr lyr filwriaeth
46 difygylodd fi da vygeiliaeth
47 dwbled vm o rvm rwymedigaeth llvrug
48 diblyg mad edmig ywr mav dadmaeth
Davydd ap glm ai kant