cowydd ir llw a roessai forfydd i ddafydd ap Gwilym ac yntau iddi
hithau ar garu pob un i gilydd
1 Gwell aniwed fforffed ffug
2 na sorri'n wladaidd sarrug
3 da fyddai forfydd {i} yw dyn
4 or diwedd hoen eiry dowyn
5 kred Eluned oleuni
6 a roes da ri moes y mi
7 o drefn i llaw fodrwyfaich
8 o ddiheuryd bryd a braich
9 i cair fi rhi rhywiogaeth
10 o char yr âb i mab maeth
11 ys gwae ydiw os gwedir
12 ys gwynn yw fy myd os gwir
14 erioed er pan ym rhoed rhodd
15 cystal i chael gan hael hwn
16 od ydiw yn rhodd didwn
17 nid gem oferedd gymwyll
18 nid bedw glynn nid dillyn bwyll
19 eurych waith mab mair uchaf
20 ai law wnaeth drwy olew naf
21 salm o dduw ai enseiliawdd
22 yn grair oi neddair ai nawdd
23 a dogn fu a digon fydd
24 o gwlwm rhwng pawb ai gilydd
25 a dwfn ir a difyrr
26 yn y tan y dyn ai tyrr
27 Ar vau vinnau ar fanwyl
28 a roes i un gwiwlun gwyl
29 yn llw hydr yn lle hydraul
30 yn i llaw hi unlliw haul
31 fal i rhoed ym o rym rydd
32 yn y dyfr o enw Dafydd
33 [131v] gyrddwayw o serch iownferch ior
34 ar garu poen eiry goror
35 doniog a fu'r greduniaeth
36 da gwn i a duw ai gwnaeth
37 rhy wnaeth bun a llun i llaw
38 rhoi dyrnaid a rhad arnaw
39 rheidlw perffeithdeg rhadlawn
40 rhinwedd y wirionedd iawn
41 llw duw yn i llaw deau
42 llymo{na} od gwn llw nid gau
43 llawendwg yn llaw Indeg
44 llw da ar hyd i llaw deg
45 llyfr cariad yw i hadaf
46 yn benrhaith erbyn yr haf
47 yn yr oerddwr ir urddwyd
48 y llw a roes morfydd llwyd
dafydd ap Gwilym