llyma gywydd i sialains ar vorfydd lw a chred
1 Gwell aniwed verfed vyg
2 na sorri yngwladaidd [s]arryg
3 da vyddai vorfydd a dyn
4 or diwedd hoen eirw dywyn
5 i chred luned y leni
6 a Roes da i moes i mi
7 o drefn i llaw vydrwyvaich
8 a di hewyd bryd a braich
9 i kar vi Ri Rywogaeth
10 o kar yr ab i mab maeth
11 os gwiwdwng onys gwedir
12 os gwyn vydd vy myd os gwir
13 ny meddais vydd o gwbl vodd
14 er ioed er pan ym Roed Rodd
15 kystal a chael gan hael hwn
16 o dydiw yn Rodd didwn
17 nid gem overedd gymwyll
18 o vedw glynn nid tyllyn twyll
19 aurychiaeth krist orychaf
20 au law noeth drwy olav naf
25 a dwfn i dda a divyr
26 dan y tan a dyn ai tyrr
35 doniog vy r gred a dyniaeth
36 da gwnn i a duw au gwnaeth
39 Raidlw perffaidd deg Radlawn
40 Rinwedd o wirionedd iawn
41 llw i dduw au llaw ddeav
42 llyna od gwnn llw nid gav
43 llawendwf balch lliw indeg
44 llw da ar hyd y llaw deg
45 llyfr kariad vydd i adaf
46 i benn rhaith vn benn yr haf
47 ynyr oer ddwfr i vrddwyd
48 y llw a rhoes Morfydd llwyd
Dafydd ap Gwilim ai kant