â â â Gwawd Morfudd
1â â â Da Forfudd sinoblrudd syw,
2â â â Deune'r eiry, dyn oreuryw,
3â â â Di-lwch riain dâl uchel,
4â â â Er dig i'r byd dygi'r bêl.
5â â â Deuwell wyd, ferch, o'th berchi,
6â â â Diwyd mawl, dywaid i mi,
7â â â Gorawen, gloyw eurben gwlad,
8â â â Gwawr eurnen, ai gwir arnad
9â â â Ddywedyd na fynnud, fun,
10â â â Oer chwarae, wr â chorun?
11â â â O Dduw, pam, loer ddinam lw,
12â â â Yr honnaist y gair hwnnw?
13â â â Os gwrthod, ffyrf anghlod ffydd,
14â â â Gorug rwyf, gwr o grefydd
15â â â Er gemau, aur ac owmal,
16â â â I ti, fy nyn euraid dâl,
17â â â Bodlon wyf is bedwlwyn ir,
18â â â Eto fun, yti feinir.
19â â â Os tremig, hoen llathrfrig haf,
20â â â Fy nghrair, neu ornair arnaf,
21â â â Forfudd hael, fwyarael fun,
22â â â Fu'r gair am fy aur gorun,
23â â â Rhyddwys, fy nyn rieddawg,
24â â â Y rhoist y destun y rhawg.
25â â â Oerfel ym, fy nyn erfai,
26â â â Eirian hwyl fuan haul Fai,
27â â â Erioed o gwelais yr un,
28â â â Euraid wystl, a rôi destun
29â â â Ni cheffid, meddid i mi,
30â â â Tystiwn orn, testun arni.
31â â â Am hyn yr wyf, rwymglwyf raid,
32â â â Ym mhoen, Forfudd, em honnaid.
33â â â Ddisglair haul, ddysgl o'r heli,
34â â â Ddeuliw tes, ni ddlÿud di,
35â â â Befr enwog nwyf, burwen gnawd,
36â â â Bwrw un destun barawd,
37â â â Uthr oroen, iaith oreuryw,
38â â â I'th fardd gwynfydig i'th fyw.
39â â â Nid nes testun, fun feinael,
40â â â Ar brydydd hoyw Forfudd hael,
41â â â Er syrthio, breuddwydio brad,
42â â â Wyth gur, ei wallt o'th gariad.
43â â â Ni bydd dy Ofydd difai,
44â â â Ni bûm nofis un mis Mai;
45â â â Ni wisgais, dileais lid,
46â â â Na gwiwben gwfl nac abid;
47â â â Ni ddysgais, hoyw drais ei drin,
48â â â Ar wiw ledr air o Ladin.
49â â â Nid llwyd fy marf, arf erfai,
50â â â Nid lled fy nghorun, nid llai,
51â â â No'r nos yr oeddem, gem gu,
52â â â Einym gur, yn ymgaru.
53â â â Aethost, wi o'r gost a'r gamp,
54â â â I'th wely, bryd wyth wiwlamp,
55â â â A'th freichiau, hoen blodau haf,
56â â â Em y dynion, amdanaf,
57â â â A minnau, fy ngem annwyl,
58â â â I'th garu, ddyn aelddu wyl;
59â â â Ond nad rhydd, gynedwydd gân,
60â â â Gwir oll, honni'r gair allan.
61â â â Awr ddi-salw, eurddwys olud,
62â â â Er hyn, ferch, fy rhiain fud,
63â â â Dywaid, fy mun, a dewis
64â â â Pa un a wnai, haul Fai fis:
65â â â Ai bydd gywir, hir hoywrym,
66â â â O gariad diymwad ym,
67â â â Ai dywaid di i mi, fy mun,
68â â â Na byddi, wyneb eiddun.
69â â â Os edifar fy ngharu
70â â â Gennyd, y rhyw fyd a fu,
71â â â Cai ran tra fo cyfrinach,
72â â â Câr Dduw yn ôl, cerdda'n iach,
73â â â Ac na ddywaid, f'enaid fun,
74â â â Air chwerw am wr â chorun.