Owdl fol i vn Jeuan neu Ifan o
Fôn
1 Neud mai nevd erfai adar feirdd traeth
2 nevd meinwyrdd coedwyrdd wydd
weyyddiaeth
3 nevd meinwedn gan edn ganiadaeth anawdd
4 nevd i ni mi ai hevrawdd nevd mav
hiraeth
5 Nevd er na chaffwyf loywnwyf lvniaeth
6 newyddion roddion ym Mon a maeth
7 nevd eisiav heiliav hael wasanaeth byd
8 nyd heb anwylyd haelion alaeth
9 Nevd temlav byrddav beirdd ysgafaeth
10 nid tevlv eirian tylvwriaeth
11 namyn hyn dvw gwyn gwenydogaeth serch
12 nad ymanerch nerch mowrchwant nid gwaeth
13 [126] Na [ ] welaf Ifan ddiddan
ddifan ddofaeth
14 na wyl yntav fi rhi rhywogaeth
15 nid af anwylaf vnoliaeth ataw
16 nid wyf hyf hebddaw ddifraw ddofraeth
17 Gwylld wyf trai gwelwyf gwalyf mabolaeth
18 gwenwynwys ynof gwin wasanaeth
19 gwedyf gwydn im tryf tref tadogaeth braw
20 o gyoedd wylaw gowyddoliaeth
21 Gwrddgae yw'r llei mae mi ai rhydraeth
22 gwarae o feddiant gwir Ofvddiaeth
23 gwndir cryf llei tyf tafrnwriaeth hoed
24 a gwydr egin coed gwiw diriogaeth
25 Gwelaf yn benaf i vn benaeth
26 gwalch o hil Lowdden gweilch helyddiaeth
27 gwaredfeirdd ydiw gwirodfaeth cerddawr
28 gwawr a garodd awr y gerddwriaeth
29 Gwas diog fyddaf im gwesdeiaeth
30 gwasdad erbyniad yw'r avr benaeth
31 gwanwyn gwin ancwyn i vn caeth fyddaf
32 gaeaf cynhaeaf a haf hyfaeth
33 Da cadwai owdvr deg ceadweidiaeth
34 da a fyn im gnawd di ofn im gwnaeth
35 dvr grwydr yw dor brwydr ar dir brevdraeth mor
36 dor difraw ragor deifr warogaeth
37 Difanol eiriol arial penaeth
38 di fai medd pob rhai i rhydd lvniaeth
39 dyfodiad trwsiad treisiaeth a gynail
40 defodav hvail hail ehelaeth
41 [127] Difwl di fwgwl bendefigiaeth
42 di ball, dyn arall nid vn wriaeth
43 difai dor erfai dewr arfaeth drvdchwyrn
44 difan avr deyrn dwfn wrda-aeth
45 Da fygylarf gwyr Lyr filwraeth
46 di fygylodd fi da fvgeiliaeth
47 dwbled ym rym rwymedigaeth llvryg
48 di blyg mad edmyg yw'r mav dadmaeth
Dafydd ap Gwilym ai cant