Gwawd Morfudd
Forfudd dda gain, wridog ei grudd,
mor wyn â'r eira, merch o'r dras orau,
rhiain ddi-nam â thalcen uchel,
4 ti sy'n cario'r bêl er mawr genfigen i'r byd.
Gwell fyth wyt, ferch, o gael dy barchu,
llawforwyn moliant, dywed wrthyf,
ysbrydoliaeth cerdd, meistres ddisglair y wlad,
8 arglwyddes â phen euraid, a yw'n wir amdanat
i ti ddweud na fynnit, ferch,
(chwarae di-nwyd) wr â chorun mynach?
O Dduw, pam, y lloer ddi-fai ei llw,
12 y datgenaist y fath beth?
Os gwrthod (amarch mawr i'r ffydd,
gwnaeth ryfyg) crefyddwr
er mwyn [cael] tlysau, aur ac enamel
16 i ti, fy merch â'r talcen gloyw,
rwyf yn fodlon arnat, ferch fain, dal,
dan lwyn bedw iraidd unwaith eto.
Os dirmyg, lliw brig llathraid yr haf,
20 fy nhrysor, neu sarhad yn fy erbyn,
Forfudd hael, merch â'r ael fel mwyar,
oedd y gair am fy nghorun aur,
yn rhy ddifrifol, fy merch fonheddig,
24 y gwawdiaist y tro hwn.
Melltith arnaf, fy merch ardderchog,
cwrs disglair haul cynnar Mai,
os gwelais erioed neb,
28 ernes euraid, a wawdiai
na fyddai, yn ôl a glywais,
byddwn yn tystio sarhad, yn cael ei gwawdio [yn ei thro].
Oherwydd hyn yr wyf, cyflwr o afiechyd caeth,
32 mewn poen, Forfudd, gem adnabyddus.
Haul disglair, cylchyn o ddwr y môr,
yr un lliw â'r heulwen, ni ddylet ti,
egni tanbaid enwog, cnawd claerwyn,
36 fwrw unrhyw wawd parod,
disgleirdeb aruthrol, iaith ardderchocaf,
ar dy fardd dedwydd tra byddi di fyw.
Nid yw'r gwawd yn gweddu, ferch â'r ael main,
40 i brydydd bywiog Morfudd hael,
er i'w wallt, dychmygu brad,
wyth poen, gwympo allan oherwydd ei fod yn dy garu di.
Ni fydd dy Ovid perffaith [fyth],
44 [ac] ni fûm [erioed] yn nofis unrhyw fis Mai;
ni wisgais, osgoais ofid,
na gorchudd dros fy mhen gwiw na gwisg mynach;
ni ddysgais, gormes llwyr yw ei drafod,
48 yr un gair o Ladin ar femrwn teg.
Nid yw fy marf wedi britho, offeryn ardderchog,
nid yw fy nghorun yn fwy, nac yn llai,
nag yr oedd y noson yr oeddem, gem annwyl,
52 ein poen ni, yn caru'n gilydd.
Aethost, dyna drafferth a dyna orchest,
i'th wely, golwg wyth llusern hardd,
a'th freichiau, lliw blodau'r haf,
56 gem y merched, amdanaf,
a finnau, fy ngem annwyl,
yn dy garu, ferch wylaidd, dywyll ei haeliau;
ond nad oes rhyddid (cân lawen,
60 hollol wir) cyhoeddi'r hanes.
Awr hyfryd, cyfoeth trwm gan aur,
er hyn, ferch, fy rhiain ddistaw,
dywed, fy merch, a dewis
64 pa un a wnei di, haul mis Mai:
naill ai bydd yn ffyddlon, grym hir a bywiog,
mewn cariad sicr tuag ataf,
neu dywed di wrthyf, fy merch,
68 na fyddi (wyneb i beri chwant).
Os yw'n edifar gennyt fy ngharu,
yn y fath fodd ag y bu,
fe gei ran tra bo cyfrinach,
72 câr Dduw eto, cer yn iach,
a phaid â dweud, f'annwyl ferch,
air chwerw am wr â chorun.