Owdwl foliant i Iefan Llwyd ap Ievan fwyaf o Enau /r/ glyn
1 Naid mai neud eurvai neud arfer ffraeth
2 neud manwydd koedydd wydd veddyddiaeth
3 neud meinwedyn gen edyn ganiadaeth anawdd
4 neud mi ai heurawdd neud mau hiraeth
5 Nid yr na chaffwyf loywnwyf luniaeth
6 newyddion roddion y Mon a maeth
7 nid eisiau heiliau hael wasanaeth byd
8 nid heb anwylyd hyboen alaeth
9 Neud temlau byrddau beirdd ysgafaeth
10 neud teulu eirian teuluwriaeth
11 namun hyn Duw gwyn gwenidogaeth serch
12 nad am annerch merch mawrchwedl neud gwaeth
13 Na welaf Ieuan ddifan ddofaeth
14 na wyl yntau fi rri rrywogaeth
15 neud af annwylaf unoliaeth attaw
16 nid wyf hy hebddaw ddifraw ddofraeth
17 Gwyllt wyf tre gwelwyf gael maboliaeth
18 gwen a wys ynof gwin wasanaeth
19 gwedy gwydn ym try tref tadogaeth braw
20 o gyoedd wylaw gywyddoldiaeth
21 Gwyrddgae yw /r/ lle mae mi ai rryddraeth
22 gorau o veddiant gwir ovyddiaeth
23 gwindyf kryf lle tyf tafarnwriaeth hoed
24 a gwydr eigion koed gwiw dirogaeth
25 Gwelaf yn bennaf i un bennaeth
26 gwalch o hil Lawdden gweilch helyddiaeth
27 gwaredfeirdd ydiw gwir odvaeth kerddawr
28 gwawr a garodd awr y gerddwriaeth
29 Gwas diog fyddaf ynn gweseddiaeth
30 gwastad erbynniad yw /r/ aur bennaeth
31 gwaenwyn gwynn ankwyn i un kaeth faddaf
32 gayaf kynhayaf a haf hyfaeth
33 Da kadwai owdwl deg keidwadaeth
34 da a fynn ym gwawd diofn ym gwnaeth
35 dur grwydr yw dor brwydr ar dir breudraeth mor
36 dor difraw ragor deifr wrogaeth
37 Difanwl eiriol arial pennaeth
38 difai medd pob rrai y rrydd luniaeth
39 defodiad trwssiad treisiaeth a gynnail
40 defodau huail hail ehelaeth
41 Dibwl difygwl benndefigaeth
42 diball dyn arall nid un wriaeth
43 difai dor erfai dewr arfaeth drud chwyrn
44 difan aur deyrn dwfn wrdaaeth
45 Di fugalaryf gwyr Lyr filwriaeth
46 di vygylodd vi da vugoliaeth
47 dwbled ym o rym rwymedigaeth llurig
48 diblyg mad edmyg yw r mau dadmaeth
Da ap Gwilym ai kant