â â â Siom
1â â â  Cariad ar ddyn anwadal
2â â â  A fwriais i heb fawr sâl.
3â â â  Edifar oedd ym garu
4â â â  Anghywir ferch, fy nghur fu,
5â â â  Fal y cerais, ledneiswawr,
6â â â  Forfudd, unne dydd, ni'm dawr.
7â â â  Ni fynnai Forfudd, f'annwyl,
8â â â  Ei charu hwy - och o'r hwyl!
9â â â  Treuliais dalm, trwy loes dylyn,
10â â â  O gerdd dda wrth garu'r ddyn.
11â â â  Treuliais wrth ofer glêr glân
12â â â  Fodrwyau - gwae fi druan!
13â â â  Traws eirwgaen wedd tros argae,
14â â â  Treuliais a gefais o gae.
15â â â  Treuliais, nid fal gwr trylwyn,
16â â â  Tlysau o'r mau er ei mwyn.
17â â â  Treiglais, gweais yn gywir,
18â â â  Defyrn gwin, Duw a farn gwir.
19â â â  Treiglais hefyd, bywyd bas,
20â â â  Defyrn meddgyrn gormoddgas.
21â â â  Perais o iawngais angerdd
22â â â  Dysgu a chanu ei cherdd
23â â â  I'r glêr hyd eithaf Ceri,
24â â â  Eiry mân hoen, er ei mwyn hi.
25â â â  Ymddiried ym a ddaroedd;
26â â â  Er hyn oll, fy rhiain oedd,
27â â â  Ni chefais, eithr nych ofal,
28â â â  Nid amod ym, dim o dâl,
29â â â  Ond ei myned, gweithred gwall,
30â â â  Deune'r eiry, dan wr arall
31â â â  I'w gwneuthur, llafur nid lles,
32â â â  Yn feichiog, fy nyn faches.
33â â â  Py fodd bynnag, i'm coddi,
34â â â  Y gwnaethpwyd, neur hudwyd hi,
35â â â  Ai o gariad, i adu,
36â â â  Diras farn, ai o drais fu,
37â â â  Yn gwcwallt salw y'm galwant -
38â â â  Wb o'r nâd! - am wedd berw nant.
39â â â  Rhai a rydd rhyw arwyddion
40â â â  I'm llaw, gormodd braw i'm bron,
41â â â  Llysgon, oedd well eu llosgi,
42â â â  O gyll ir; ni bu i'm gwall i.
43â â â  Eraill a rydd, deunydd dig,
44â â â  Am y tâl ym het helig.
45â â â  Morfudd, ac nid o'm erfyn,
46â â â  Heb awr serch a beris hyn.
47â â â  Duw a ranno o'r diwedd
48â â â  Barn iawn rhof a gwawn ei gwedd.