Siom
    Rhoddais gariad ar ferch anwadal
    heb gael dim tâl amdano.
    Roedd yn edifar gennyf garu
4    merch anffyddlon, bu'n boen i mi,
    fel y cerais, arglwyddes foneddigaidd,
    Forfudd, un lliw â'r dydd, ni waeth gennyf amdani.
    Ni fynnai Morfudd, f'anwylyd,
8    gael ei charu mwyach - dyna hanes trist!
    Gwastreffais lawer o farddoniaeth dda
    wrth garu'r ferch mewn poen ddi-baid.
    Gwastreffais fodrwyau ar finstreliaid crwydrol hardd
12    - gwae fi druan!
    Golwg haenen o ewyn byrlymus dros argae,
    gwastreffais bob broits a gefais.
    Gwastreffais, nid fel gwr haelionus,
16    dlysau o'r eiddof er ei mwyn.
    Mynychais dafarnau gwin,
    lluniais [gerddi] yn gywir, Duw a fydd yn barnu cyfiawnder.
    Mynychais hefyd dafarnau cyrn medd llawn casineb,
20    bywyd gwael.
    Trefnais trwy gelfyddyd dda ei hamcan
    i'r minstreliaid ddysgu a chanu cerddi amdani
    hyd pen draw Ceri,
24    lliw eira mân, er ei mwyn hi.
    Rhoddodd ei ffydd ynof fi;
    er gwaethaf hyn i gyd (fy nghariad oedd)
    ni chefais, heblaw blinder cystudd,
28    unrhyw wobr, nid oedd ymrwymiad i mi,
    ond mynd ohoni (gweithred anghywir,
    yr un lliw â'r eira) dan wr arall
    i'w gwneud (gwaith di-les)
32    yn feichiog, fy merch fach annwyl.
    Sut bynnag (i'm digio i)
    y gwnaethpwyd (fe fwriwyd hud arni),
    ai trwy gariad, i adael,
36    barn anfad, ai trwy drais y bu,
    fe'm galwant yn gwcwallt cywilyddus -
    och o'r llef! - o achos yr un ag wyneb fel ewyn nant.
    Fe rydd rhai pobl ryw arwyddion
40    yn fy llaw, gormod o fraw i'm calon,
    gwiail (byddai'n well eu llosgi)
    o goed cyll ir; nid fy mai i ydoedd.
    Fe rydd eraill (mater poenus)
44    het helyg i mi ar fy mhen.
    Morfudd a achosodd hyn
    heb un awr o serch, ac nid o'm ewyllys i.
    Boed i Dduw farnu yn y diwedd
48    ddyfarniad cyfiawn rhyngof fi a'r un â'r wyneb fel
		  gwawn.