â â â Moliant Hywel, Deon Bangor
1â â â Arglwydd canonswydd, unsud-Mordëyrn
2â â â A Dewi yng ngwlad yr
hud,
3â â â Cybi nefol ei olud,
4â â â Cydymddeithion Simon, Sud.
5â â â Sain Sud un ffunud ffyniwyd,-o genedl
6â â â Y Gwinau Dau Freuddwyd,
7â â â Sain Silin, ffrangsens aelwyd,
8â â â Salm Saint Elien, gwr llên
llwyd.
9â â â Tëyrn, llwyd broffwyd, hil Brân,-mae ungwr
10â â â Ym Mangor mewn gown
pân,
11â â â Ty geirwgalch teg ei organ,
12â â â Tant côr heb atynt a'i cân.
13â â â Ni chân fy nhafawd wawd wenithaidd,
14â â â Ni chair lliniodr wyr yn ochr
lluniaidd,
15â â â Ni chêl i Hywel hoyw garuaidd-lwybr
16â â â O burddawn ewybr barddonïaidd.
17â â â Neirthiad a gefais, didrais dwydraidd,
18â â â Ni'm gad gamruad, ged Gymroaidd,
19â â â Nis erfyn o brudd ac nis arfaidd-draw
20â â â Naw, o'r praw lidiaw, iôr
preladiaidd.
21â â â Neur gaiff yng Ngwynedd hoywfedd hyfaidd,
22â â â Neur gâr a'i dyeingl, nêr
gwrdäaidd,
23â â â Nid byr fawl gwrawl a gyrraidd-ym Môn
24â â â Y beirdd, 'y Neon barddonïaidd.
25â â â Nid bas cyweithas, wr urddasaidd,
26â â â Neud bardd 'y neddair, ffyrfair, ffurfaidd,
27â â â Nid barn don yw hon, henwraidd-ym mryd,
28â â â Nid byd heb Wyndyd pryd prydyddaidd.
29â â â Nid byw fal fy llyw gloywryw, glewraidd
30â â â Nen dan y seren, dawn oes wraidd,
31â â â Nid un gwalch hoywfalch, hyfaidd,-llygeidfyw
32â â â Ag yw cyw y dryw, caeau a draidd.
33â â â Nid un claer araith dyn clerwraidd
34â â â Â llwybr gwr ewybr yn garuaidd,
35â â â Nid un bryn mebyn mabaidd-â hynaif,
36â â â Nid un gwenithgnaif â hyddaif
haidd.
37â â â Nid un gwin naddfin â mynyddfaidd,
38â â â Nid un y paun, gnu o blu, â blaidd,
39â â â Nid fal Bleddyn, dyn diburoraidd-ras,
40â â â Y cân eddylwas ferw Cynddelwaidd.
41â â â Ni wyr, cymraw llwyr, Cymro llariaidd,
42â â â Roddi i eirchiaid yn Rhydderchaidd,
43â â â Nwysgel, eithr Hywel, athrawaidd-ganon,
44â â â Naf Môn, gloyw Ddeon
arglwyddïaidd.