1 Kariad ar ddyn anwadal
2 a vwrais heb vawr sal
3 edifar oedd ym garu
4 anghywir verch ynghur vy
5 val i kerais lednaiswawr
6 vorfydd vne dydd nym dawr
7 ny vynnai vorfydd vannwyl
8 i charu hwy och or hwyl
9 troelais dalm trwy loes dylyn
10 o gerdd dda wrth garu r ddyn
11 troelais wrth over gler glan
12 vydrwyav gwae vi dryan
13 traws o airwgaen tros argae
14 troelais a gevais o gae
17 traiglais gweais yn gywir
18 devyrn gwin duw a varn gwir
19 traiglais hefyd bywyd bas
20 devyrn meddgyrn gormoddgas
21 [291r] perais o iawngais angerdd
22 prydv a chanv i cherdd
23 ir gler hed aithaf keri
24 eiry man hoen er i mwyn hi
25 ymddiried yma ddaroedd
26 er hynn oll vy rhiain oedd
27 ny chevais eithr nych oval
28 nid amod ym dim o dal
29 ond i myned gwaithred gwall
30 dyner eiry dan wr arall
31 au gwnaethur llavur nid lles
32 yn vaichog y nyn vaches
33 pwy vodd bynnag ym koddi
34 i gwnaethbwyd ne hudwyd hi
35 au o gariad i ady
36 diras varn au o drais vy
37 yn gwkwallt salw ym galwant
38 wb or nad vne berw nant
39 rhai a rhydd rhyw arwyddion
40 ym llaw gormodd braw ym bronn
41 llisgon oedd well i llosgi
42 o gyll ir ny bvn gall i
43 eraill a rhydd defnydd dig
44 am y tal ym hed helig
45 Morfydd ag nid om erfyn
46 heb awr serch a beris hynn
47 duw a varno or diwedd
48 bawn iawn rhof a gwawn i gwedd
Davydd ap Gwilym ai kant