{I forfydd}
1 Cariad ar ddyn anwadal
2 A fwriais i ofer sal
5 modd y cerais ledneis-wawr
6 morfydd neu dydd ennyd aur
7 Ni fynnai forfydd f'annwyl
8 eicharu hwy och o'r hwyl
9 treuliais dalm drwy loes dylym
10 o gerdd dda i garu'r ddyn
19 Treuliais hefyd nid byd bost
20 tefyrn medd-gyrn gormodd-gost
13 traws eiry gaen wedd tros argae
14 treuliais a gefais o gae
17 Treuliais gweais yn gywir
18 Defyrn gwin Duw a farn gwir
15 Treuliais nid fel gwr trylwyn
16 Tlyssau o'r mau er ei mwyn
11 Treuliais wrth ofer gler glan
12 fodrwyau gwae fi druan
21 Perais o iowngais angerdd
22 dyscu a chanu ei cherdd
23 I'r gler hyd eithaf Ceri
24 eiry mân hoen er ei mwyn hi
27 Ni chefais eithr nych ofal
28 Nid amod i'm dim o dal
29 Eithr ei myned gweithred gwall
30 Deune 'r eiry dan wr arall
31 Iw gwneuthur nid llafur lles
32 yn feichiog fy nyn faches
33 Pa fodd bynnac yw noddi
34 y gwnaethpwyd neu'r hudwyd hi
35 Ai o gariad i adu
36 dyras farn ai o drais fu
37 yn gwrwallt salw i'm galwant
38 Wb o'r nad am wedd berw nant
39 Rhai a rydd rhyw arwyddion
40 i'm llaw gormodd braw i'm bron
41 Llysgion (gwell im eu llosgi)
42 o gyll oedd nid o'm gwall i
43 Eraill a rydd deunydd dig
44 Am y tâl i'm het helig
45 Morfydd (ac) nid o'm erfyn
46 heb awr serch a berys hyn
47 Duw a ranno o'r diwedd
48 Barn iawn rhof a gwawn ei gwedd
dd' ap Gwilym