â â â Rhag Hyderu ar y Byd
1â â â Mau aflwyddiant, coddiant cawdd,
2â â â Mefl iddo a'm aflwyddawdd!
3â â â Sef yw hwnnw, byw ni baidd,
4â â â Eiddig leidr, Iddew gwladaidd.
5â â â Ni adawdd, ni bydd nawdd nes,
6â â â Da i'm helw, Duw a'm holes.
7â â â Cyweithas, hoywdras, hydrum,
8â â â Cyfoethawg, rhuddfoawg fûm;
9â â â Ethwyf o wiwnwyf yn iach,
10â â â Wythlid bwyll, a thlawd bellach.
11â â â Ciried, deddf cariad diddim,
12â â â Digardd wyf, a'm dug ar ddim.
13â â â Na rodded un cun ceinsyth
14â â â Fryd ar y byd fradwr byth.
15â â â Estron was, os dyry'n wir,
16â â â Fud ellwng, ef a dwyllir.
17â â â Hud yw golud, a gelyn,
18â â â Brwydr dost yw a bradwr dyn.
19â â â Weithiau y daw, draw draha,
20â â â Weithiau yn ddiau ydd â,
21â â â Mal trai ar emylau traeth
22â â â Gwedy llanw gwyd a lluniaeth.
23â â â Chwerddid mwyalch ddichwerwddoeth
24â â â Yng nghelli las, cathlblas coeth.
25â â â Nid erddir marlbridd iddi,
26â â â Nid iraidd had, nid ardd hi,
27â â â Ac nid oes, edn fergoes fach
28â â â Â thruth oll, ei thrythyllach.
29â â â Llawen yw, myn Duw Llywydd,
30â â â Yn llunio gwawd mewn llwyn gwydd.
31â â â Llawenaf, breiniolaf bryd,
32â â â Yw'r bastynwyr, byst annwyd.
33â â â Wylo a wnaf, bruddaf bryn,
34â â â Em oleuddeigr am loywddyn,
35â â â Ac ni wyr Fair, glodair glud,
36â â â Ym wylo deigr am olud,
37â â â Gan nad oes, dyhunfoes deg,
38â â â Gymroaidd wlad Gymräeg
39â â â Hyd na chaffwyf, bwyf befriaith,
40â â â Durfing was, da er fy ngwaith.
41â â â Ac ni chaid o'i chyfoedi
42â â â Dan emyl haul dyn mal hi.
43â â â Am fy nghannwyll y'm twyllwyd,
44â â â Morfudd, lliw goleuddydd, Llwyd.