Rhag Hyderu ar y Byd
Anffawd sydd imi, llid digofaint:
cywilydd ar y sawl a achosodd fy methiant!
Sef yw hwnnw (ni fydd yn meiddio byw)
4 Eiddig leidr, Iddew gwladaidd.
Ni adawodd (ni fydd amddiffyn yn nes)
gyfoeth yn fy meddiant, Duw a'm herlynodd.
Hynaws, o dras ffyniannus, grymus,
8 cyfoethog, [a] chefnog fûm;
(rwyf wedi ffarwelio ag angerdd gwiw,
pwyll [wedi'i gorddi] wythgwaith â llid) a thlawd [wyf]
bellach.
Haelioni (arfer cariad di-ddim,
12 di-fai wyf) a'm dug hyd at ddim.
Na rodded un arglwydd hardd ac unionsyth
[ei] fryd ar y byd bradwrus byth.
Gwas estron, os dyry [ei fryd felly] yn wir,
16 (colli eiddo) ef a dwyllir.
Hud yw golud, a gelyn,
brwydr greulon ydyw a bradychwr dyn.
Weithiau y daw, balchder draw,
20 weithiau yn sicr fe â,
fel trai ar ymylau traeth
wedi llanw [o] chwant a lluniaeth.
Chwardd ceiliog mwyalch mwyn [a] doeth
24 mewn celli werdd, hardd blas cân.
Nid erddir pridd maethlon iddo,
nid yw [ei] had yn iraidd, nid ardd ef,
ac nid oes (aderyn byrgoes bach
28 â mân siarad cyflawn) ei fywiocach.
Llawen ydyw, myn Duw Llywydd,
yn llunio mawl mewn llwyn o goed.
Llawenaf (meddwl mwyaf urddasol)
32 yw'r clerwyr [â] natur cynheiliaid.
Wylo a wnaf (llid tristaf)
ddagrau golau [a achosir gan ferch fel] gem am ferch ddisglair,
ac ni wyr Mair (gair taer o glod)
36 imi wylo dagrau am gyfoeth,
gan nad oes (moes ddymunol deg)
wlad Gymreig [a] Chymraeg
lle na chaf (boed imi fod yn loyw fy iaith,
40 gwas dygn) dâl am fy ngwaith.
Ond ni cheid o'i chyfoeswyr
dan ymyl [yr] haul ferch fel hi.
Am fy nghannwyll y'm twyllwyd,
44 Morfudd Llwyd, [sydd â] lliw golau ddydd.