Kowydd mwyn
1 Mav aflwyddiant koddiant kawdd
2 mefl iddo am aflwyddawdd
4 eiddig leidyr iddew gwladaidd
3 sef yw hwnw byw o baidd
5 ni adawdd ni bv nawdd nes
6 da im helw duw am holes
7 kyweithas hoywdras hvdrvm
8 kywaethog fawr enwog fvm
9 y rwyf o wiw nwyf yn iach
10 wyth lid bwyll ith wlad bellach
13 na rodded vn kvn keinsyth
14 fryd ar y byd fradwr byth
15 esdron was os dyry yn wir
16 fvd ollwng ef a dwyllir
17 hvd yw golvd a gelyn
18 brwydwr dwys a bradwr dyn
19 [859] wethie i daw draw draha
20 weithiav yn ddiav i dda
21 mal trai ar ymyle traeth
22 gwed llanwe gwawd a llvniaeth
23 chwarthiad mwyalch wych eirddoeth
24 ynghelli las kethylblas koeth
25 nid i raidd had nid ardd hi
26 nid erddir marlbridd iddi
27 ag ni does edyn fergoes fach
28 o drvth oll i drythyllach
29 llawen yw myn duw llowydd
30 yn llvnio gwawd mewn llwyn gwydd
31 llawena brenola bryd
32 ywr bystinwr byst anwyd
33 wylo awnaf brvddaf bryn
34 em olew ddeigr am loywddyn
35 ag nis gwyr fair loyw air lvd
36 ym wylo deigr am olvd
37 am na does dehvnfoes deg
38 gymroaidd wlad gymraeg
39 hyd na chaffwyf bwyf beniaith
40 dirfing wr da er fyngwaith
41 ag ni chaid ai chyfoedi
42 dan ymyl haul dyn mal hi
Dauidd ap glim ai kant