{I Eiddig}
1 Mau aflwyddiant coddiant cawdd
2 mefl iddaw a'm aflwyddawdd
3 Sef yw hwnnw byw o baidd
4 Eiddig leidr Iddew gwladaidd
5 Ni adawdd ni bu nawdd nes
6 da i'm helw Duw a'm holes
7 Cyweithas hoedras hydrwm
8 Cywaethog fareddog fwm
9 yr wyf o wiw nwyf yn iach
10 wyth lid bwyll ith wlad bellach
13 Na rodded vn cun ceinsyth
14 fryd ar y byd fradwr byth
15 Estron was os dyry'n wir
16 fud ollwng ef a dwyllir
17 hud yw golud a gelyn
18 Brwydr dwys a bradwrfdyn
19 Weithiau y daw draw draha
20 Weithiau y'n ddiau ydd a
21 Mal trai ar emylau traeth
22 gwedi llanw gwaed a lluniaeth
23 Chwerddid mwyalch wych eirddoeth
24 ynghelli las cethl-blas coeth
25 Nid erddir marlbridd iddi
26 Nid iraidd had nid ardd hi
27 Ac nid oes edn fer-goes fach
28 o druth oll ei drythyllach
29 llawen wyf myn Duw llywydd
30 yn llunio gwawd mewn llwyn gwydd
31 [14v] llawenaf breiniolaf bryd
32 Yw'r bastynwyr byst anwyd
33 wylaw a wnaf bruddaf bryn
34 Em oleu-ddeigr am loew-ddyn
35 Ac nis gwyr fair loewair lud
36 Ym wylaw deigr am olud
37 Am nad oes dyhun-foes deg
38 Gymroaidd wlad Gymraeg
39 hyd na chaffwyf bwyf beniaith
40 dirfing gwr da er fyngwaith
41 Ac ni chaid o'i chyfoedi
42 dan emyl haul dyn mal hi
dd' ap Gwilym