Moliant Hywel, Deon Bangor
Arglwydd ac iddo swydd canon, un tebyg i Fordeyrn
a Dewi yng ngwlad yr hud,
Cybi nefol ei gyfoeth,
4 cymheiriaid Simon a Jwdas.
Fe'i bendithiwyd yn yr un modd â Sant Jwdas, o linach
y Gwinau Dau Freuddwyd,
Sant Silin, a thus ar ei aelwyd,
8 salm Sant Elien, eglwyswr duwiol.
Pennaeth, proffwyd duwiol, o hil Brân, mae un dyn
ym Mangor mewn gwn ermin -
ty gwyngalch o liw ewyn ac ynddo organ hardd -
12 mae'n canu'n rhwydd dant y gangell.
Ni chân fy nhafod gân wenieithus -
ni cheir pren mesur cam yn ymyl un cymwys -
ni chuddia rhag Hywel fuchedd annwyl, deg
16 drwy ddawn brydyddol bur a pharod.
Cefais gynhaliwr (heddychlon yw'r ymweliadau mynych),
nid yw'n gadael i neb floeddio'n ofer arnaf (cymwynas
Gymreigaidd),
ni fydd cynifer â naw yn ymbil arno o ddifri nac yn ei
herio acw
20 os digwydd iddo wylltio, arglwydd o anian prelad.
Fe gaiff yng Ngwynedd ddiod fedd hyfryd sy'n ennyn beiddgarwch,
mae'n caru'r sawl sy'n ei oleuo, arglwydd bonheddig,
nid prin yw'r mawl rhagorol y mae'n ei ennill ym Môn
24 y beirdd, fy Neon awenyddol.
Nid salw yw'r gwr tirion urddasol,
bardd yw fy noddwr, un lluniaidd, cadarn ei eiriau,
nid barn ddrylliog yw hon yn y meddwl, nid fel barn henwr
musgrell,
28 ni fyddai byd heb y gwr o Wynedd ac arno olwg prydydd.
Nid oes yr un arglwydd tebyg i'm tywysog disglair ei linach
â'r wayw ddewr
i'w gael dan y sêr, y gwr dawnus, gwrol ei fyw,
nid yr un yw hebog hardd a balch, eofn, gloyw ei lygaid
32 â chyw'r dryw sy'n croesi caeau.
Nid yr un yw datganiad uchel dyn o anian clerwr
â dull hawddgar gwr parod ei eiriau,
nid yr un yw amlygrwydd llencyn bachgennaidd â hynafgwr,
36 nid yr un yw gwenith wedi ei gynaeafu â haidd llosg.
Nid yr un yw gwin o ymyl cwpan cerfiedig â maidd o'r
mynydd,
nid yr un yw'r paun a'i gnu o blu â blaidd,
nid fel Bleddyn, dyn angherddorol ei ddawn,
40 y cân dyn amcanus farddoniaeth fel Cynddelw.
Ni wyr yr un Cymro addfwyn (testun dychryn llwyr)
sut i roddi i eirchiaid yn debyg i Rydderch,
gan roi taw ar lefain, ond Hywel, y canon dysgedig,
44 arglwydd Môn, Deon disglair pendefigaidd.